Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Creu Casgliad LHDTC+ yr Amgueddfa



Mae Amgueddfa Cymru wrthi’n adeiladu casgliad LGBTQ+ o wrthrychau, dogfennau, ffotograffau a hanesion llafar i gynrychioli’n llawn bob agwedd ar hanes a phrofiad byw LGBTQ+ Cymru.
Fel rhan o Fis Hanes LGBTQ+, bydd y sgwrs hon yn rhoi trosolwg o’r casgliad LGBTQ+ yn Sain Ffagan gan edrych ar sut mae’r casgliad wedi cael ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd hefyd yn trafod sut mae'r casgliad hwn yn cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau ac arddangosiadau.
Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.
Gwybodaeth Bwysig
Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.
Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.