Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa AR-LEIN: Molysgiaid o’r Caribî ar daith yng Nghymru? - SAESNEG

Wedi'i Orffen
9 Tachwedd 2023, 6:00pm
Pris Talwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir £5
Addasrwydd Pawb

Molysgiaid o’r Caribî ar daith yng Nghymru

Archebu tocyn 

Oeddech chi'n gwybod, fod molysgiaid o'r Caribî yn hwylio ar draws Cefnfor Iwerydd ar ddarnau plastig? Wrth arnofio yn eu cynefin trofannol, byddan nhw'n glynu at sbwriel yn y dŵr sy'n canfod ei ffordd i Lif y Gwlff – y cerrynt cynnes sy'n teithio i'r dwyrain ar draws gogledd Cefnfor yr Iwerydd ac yn eu cadw'n gynnes braf. Bydd stormydd garw wedyn yn eu taflu i'r lan ar eu rafftiau plastig. Ond ydyn nhw'n broblem? Maen nhw'n rhywogaethau anfrodorol, neu estron, a gallan nhw ddod yn rhywogaethau ymwthiol sy'n creu hafoc i'n bywyd gwyllt cynhenid.

Fi yw curadur deufalfiau Amgueddfa Cymru, a fy niddordeb i yw molysgiaid morol gyda dwy gragen, fel wystrys, cregyn bylchog, a chregyn gleision. Ar ôl stormydd garw 2013 a 2014 dyma fi'n derbyn cregyn a ffotograffau molysgiaid anarferol, nad oedd pobl yn eu hadnabod, wedi'u casglu o'r traethau. Diolch i'n casgliadau helaeth a'n llyfrgell, llwyddais i adnabod y rhywogaethau, ac roedd pob un yn dod o Orllewin Cefnfor yr Iwerydd, a'r Caribî yn bennaf. Yn rhyfedd iawn, roedd pob canfyddiad o Loegr ac Iwerddon, a dim adroddiadau o Gymru! Pam?! I ateb y cwestiwn rydw i wedi bod yn siarad â nifer o gymunedau ar hyd arfordir Cymru.

Os ydych chi am ddysgu mwy, neu am fynd ati eich hun i chwilio am folysgiaid teithiol ar blastigion, yng Nghymru neu unrhyw le arall, dewch i wrando ar fy sgwrs.

- Anna Holmes, Curadur (Deufalfiaid)

 

Gwybodaeth Bwysig

 

Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.

Bydd cyfieithiad BSL ar gael - Julie Doyle Cyfieithydd BSL/Saesneg

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

 

Mwy o sgyrsiau o ddiddordeb

Digwyddiadau