Geiriau Diflanedig

Yr Ysgwrn, Eryri ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi

Darganfyddwch bŵer byd natur i danio’r dychymyg wrth i’r llyfr poblogaidd ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words) ddod yn fyw mewn dwy arddangosfa unigryw’r haf hwn.

Mae’r llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i’w gwarchod.

Yr haf hwn, mewn partneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, bydd y llyfr yn sail i ddwy arddangosfa arbennig yn Yr Ysgwrn, Eryri, ac Oriel y Parc yn Sir Benfro.

Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, waith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Bydd yr arddangosfa yn ddwyieithog am y tro cyntaf erioed. Cafodd y llyfr Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

Arddangosfa yn agor 24 Mehefin, 2023 ac yn cael ei harddangos hyd at gwanwyn 2024. Mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

https://yrysgwrn.com/cynllunio-eich-ymweliad/arddangosfa-geiriau-diflanedig/

Oriel y Parc, Tyddewi

Arddangosfa yn agor 2 Gorffennaf, 2023 ac yn cael ei harddangos hyd at gwanwyn 2024. Mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

https://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli, ac i esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr Geiriau Diflanedig ewch i https://graffeg.com/products/geiriau-diflanedig..

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016 

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016 

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016