Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
9-10 Medi 2023

Gwneud Cais

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 80 o stondinau yn cynnig detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, mae rhywbeth at ddant pawb!

 

Ceisiadau 2024 ar agor nawr!

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 01/04/24 

Diolch am eich diddordeb yn ein digwyddiad. Cliciwch ar y botwm isod i agor a lawrlwytho’r pecyn ymgeisio, sy’n cynnwys telerau ac amodau y digwyddiad, nodiadau canllaw, a dolenni i’r ffurflen gais ar-lein. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ebostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk 

Pecyn Ymgeisio 

Cofrestru i ymuno â'n rhestr e-bostio

Yr Ŵyl

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.   

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

 

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 9-10 Medi 2023. 

 

Cefnogwyd digwyddiad 2022 gan Gronfa Adfer Gwyliau Bwyd 2022 Bwyd a Diod Cymru

Cefnogwch Ni

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu oll! 

Elusen ydyn ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod â chymunedau ynghyd, a bod yn lle i greu atgofion. 

⁠Os ydych chi’n teimlo’r un fath, cyfrannwch heddiw er mwyn cadw stori Cymru’n fyw i bawb ei mwynhau am ddim.  

Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr - diolch. 

Rhoi heddiw