Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Gwneud Cais
12-13 Medi 2026
Gwneud Cais
Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 80 o stondinau yn cynnig detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, mae rhywbeth at ddant pawb!
Ydych chi'n fusnes bwyd a diod yng Nghymru?
Mae'r ceisiadau am stondinwyr wedi cau ar ddydd Gwener 20 Mawrth, ac rydyn ni wrthi'n dewis ein stondinwyr ar gyfer y digwyddiad eleni.
Cofrestrwch isod i ymuno â'n Rhestr Bostio Stondinwyr, i dderbyn y ffurflen gais ar gyfer Gŵyl Fwyd Sain Ffagan 2027 pan gaiff ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2027 yn ogystal â gwybodaeth am gyfleoedd eraill yn y dyfodol.
Ymunwch â'n Rhestr E-bostio Stondinwyr
Hoffech chi wneud cais am stondin Elusen neu Allestyn yn y digwyddiad?
Mae gyda ni ychydig o stondinau nad sy'n gwerthu bwyd na diod ar gael bob blwyddyn, er mwyn rhoi cyfle i sefydliadau a grwpiau lleol gymryd rhan yn y digwyddiad. Nodwch na chaniateir unrhyw weithgareddau codi arian yn y digwyddiad; gan gynnwys bwcedi neu bwyntiau casglu arian, casglu aelodaeth, cofrestru debyd uniongyrchol, raffl.
I drafod gwneud cais am Stondin Allestyn, ebostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk