Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Dyddiadau: Dydd Sadwrn 12/09/26 a Dydd Sul 13/09/26
Oriau agor: 10am-6pm
Oes pris mynediad i'r digwyddiad? Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim! Mae’r rhan fwyaf o raglen yr ŵyl am ddim, gyda rhai gweithgareddau ble bydd angen i chi dalu fel y ffair draddodiadol.
Oes angen i fi archebu tocyn? Nac oes, does dim modd i chi brynu tocyn o flaen llaw. Mae’r Ŵyl Fwyd yn ddigwyddiad am ddim cyhoeddus ac agored i bawb ar sail cyntaf i'r felin.
Beth yw pris parcio? Codir tâl parcio dyddiol arferol yr Amgueddfa (£7 trwy’r dydd ar hyn o bryd).
Ydw i'n gallu dod â’r ci? Cewch ddod â chŵn i Sain Ffagan, cyn belled eu bod ar dennyn byr (sydd ddim yn ymestyn). Dim ond cŵn tywys gaiff fynd i mewn i adeiladau hanesyddol, y caffis a’r orielau.
Pa fwydydd fydd ar gael? Bydd y Farchnad Fwyd yn llawn cynnyrch lleol gan gynnwys cacennau, cyffeithiau a chawsiau. Bydd yr Ardaloedd Bwyd Stryd yn llawn amrywiaeth o fwydydd o wahanol wledydd ar draws y byd, o fwydydd Cymreig traddodiadol i pizza, byrgyr, bwydydd figan, Mecsicanaidd, Siapaneaidd, Indiaidd, hufen iâ a llawer mwy. Bydd siopau, bwytai a chaffis yr Amgueddfa hefyd ar agor. Bydd y rhestr o stondinwyr yn cael ei gyhoeddi yn nes at y digwyddiad.
A fydd yna lawer o stondinau bwyd a all ddarparu ar gyfer gofynion dietegol? Byddwn yn dewis ein stondinwyr yn ofalus er mwyn sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i'r rhai sydd ag anghenion dietegol. Bydd yr arlwy yn cynnwys stondinau sy’n arbenigo mewn cynnyrch fegan a bwyd a diod heb gynhwysion penodol. Siaradwch â’r stondinwyr wrth archebu am wybodaeth lawn am alergenau.
Oes angen i mi ddod ag arian parod, neu galla i dalu â charden? Rydym yn eich annog i dalu â charden ble’n bosibl gan y bydd y rhan fwyaf o stondinau bwyd yn gallu derbyn taliadau carden. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi fod ag arian parod ar gyfer rhai o’r stondinau bwyd a’r gweithgareddau taladwy.
Pa weithgareddau bydd ar gael? Bydd digonedd o weithgareddau ar gael i'r holl deulu, o arddangosiadau coginio traddodiadol, i sgyrsiau a cherddoriaeth fyw. Bydd rhaglen yr ŵyl yn cael ei gyhoeddi yn nes at y digwyddiad.
Ble ar y safle bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal? Mae’r Ŵyl Fwyd yn digwydd ar draws y safle. Nodwch os gwelwch yn dda na chaniateir mynd â bwyd na diod i mewn i'r adeiladau hanesyddol na’r orielau.
Rydym yn disgwyl 12,000-15,000 o ymwelwyr y dydd i'r digwyddiad hwn felly bydd yn brysur. Yr amser prysuraf yw rhwng 10am a 2pm. Os byddai’n well gennych osgoi torfeydd mawr, rydym yn eich cynghori i ymweld y tu allan i'r oriau hyn.
Hoffwn i wirfoddoli; sut galla i fynd ati? Diolch yn fawr – ni allen ni gynnal digwyddiad fel hyn heb gefnogaeth ein Gwirfoddolwyr Digwyddiadau. Cysylltwch â’r Adran Wirfoddoli am fwy o wybodaeth am y rolau sydd ar gael: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk / (029) 20573002.
Ydych chi’n dal i chwilio am fwy o stondinwyr bwyd? Os ydych chi’n fusnes bwyd a diod ac â diddordeb mewn ymgeisio am stondin, ewch i'r dudalen hon os gwelwch yn dda.