Delweddau Diwydiant

Ar ôl cyrraedd y Crwys

BROOKE-BRANWHITE, Charles (1851 - 1929)

Dyddiad: 1878

Cyfrwng: dyfrlliw ar bapur

Maint: 468 x 776 mm

Derbyniwyd: 1997; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 1997.149

Mae’r paentiad hwn yn dangos llun o’r traeth yn Ystumllwynarth (mae’r eglwys i’w gweld yn y cefndir ar y chwith), gyda dau gwch treillio wystrys o’r Mwmbwls yn gorwedd ychydig uwchlaw llinell y penllanw. Gellir gweld gweddillion cledrau Tramffordd Ystumllwynarth, neu Reilffordd y Mwmbwls yn ddiweddarach. Yn ystod y 1850au a’r 1860au, dirywiodd y rheilffordd yn araf deg i ddim bron, cyn cael ei hailadeiladu a’i hymestyn tu hwnt i Eglwys Ystumllwynarth. Wrth ailadeiladu rheilffyrdd, yr arferiad cyffredin oedd gadael yr hen gledrau i’r naill ochr. Yma, mae’n ymddangos fod yr hen gledrau wedi’u taflu dros y wal ac ar y blaendraeth.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall