Delweddau Diwydiant

ELLEN JAMES

ROBERTO, Luigi (1845 - 1910)

Dyddiad: circa 1904

Cyfrwng: gouache ar bapur

Maint: 432 x 634 mm

Derbyniwyd: 2009; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 2009.88/2

Cafodd y sgwner bren tri mast ELLEN JAMES ei adeiladu gan D. Williams ym Mhorthmadog ym 1904. J. Jones & Co. oedd perchnogion y llong a J. Jones ei hun oedd ei chapten. Cafodd ei chofrestru yng Nghaernarfon, yn pwyso 165 tunnell gros (137 net) ac yn mesur 101 troedfedd o hyd gyda thrawst 23 troedfedd. Fe’i defnyddiwyd i gludo pysgod hallt, yn lle llong o’r un enw a ddrylliwyd ym 1902.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall