Delweddau Diwydiant

M.V. ST. THOMAS ac ST. ESSYLT

HICK, Allanson (1898 - 1975)

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Dyddiad: 1948

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 610 x 839 mm

Derbyniwyd: 1989; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 89.136I

Comisiynwyd gan R. G. M. Street, rheolwr gyfarwyddwr y South American Saint Line. Ym 1948, cafodd dwy long o gynllun chwyldroadol, eu cwblhau gan gwmni Thompson o Sunderland ar gyfer y South American Saint Line, Caerdydd. Cyn y rhyfel, dechreuodd y cwmni gynnig gwasanaeth llong deithwyr rheolaidd i Dde America, gyda’r bwriad o ddefnyddio dwy long newydd – St Essylt a St Thomas – i ail-lansio’r gwasanaeth o fri a gludai ddeuddeg teithiwr yn ogystal â nwyddau. Er gwaetha’r llwyddiant cychwynnol, fodd bynnag, daeth y cwmni i ben ym 1965, a chafodd y ddwy long fawreddog hon eu datgymalu ym 1978-79.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall