Delweddau Diwydiant

Y ST. HELENA yn cyrraedd Doc y Frenhines Alexandra, Caerdydd

BRENNAN, John

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Dyddiad: 1991

Cyfrwng: pen ac inc gyda chreon ar bapur

Maint: 210 x 297 mm

Derbyniwyd: 1991; Rhodd

Rhif Derbynoli: 91.128I

Pan benderfynodd gwasanaeth enwog yr Union Castle Line roi’r gorau i hwylio i Dde Affrica ym 1977, roedd angen gwasanaeth hwylio i ynys St. Helenayn Ne’r Iwerydd o hyd. Daeth cwmni Curnow Shipping o Porthleven, Cernyw, i’r adwy gan sefydlu gwasanaeth olynol ym 1978. Ym 1990, dechreuodd y cwmni ddefnyddio llong newydd, yr ail St Helena, o borthladd Caerdydd. Fe’i hadeiladwyd yn Aberdeen ym 1990, ac mae’r llun hwn yn ei dangos yn cyrraedd Caerdydd gyda fflyd o gychod tynnu.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall