Delweddau Diwydiant

Plât llechfaen

RICE, William Joseph ( - 2008)

Dyddiad: 2007

Cyfrwng: llech

Maint: 304 x 8 mm

Derbyniwyd: 2009; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 2009.24

Crëwyd y plât hwn gyda saith ‘stribyn’ neu ‘resen’ o lechfaen o ogledd Cymru ac UDA. Daw’r llechi Cymreig o chwareli’r Penrhyn, Llechwedd, Corris, Ffestiniog, a Dyffryn Nantlle, a llechi ‘American Red’ ac ‘Unfading Green’ yw’r rhai Americanaidd.

Mae’r plât yn un o bâr a gomisiynwyd gan Amgueddfa Lechi Cymru i nodi achlysur gefeillio â Slate Valley Museum, Granville, UDA, ym Mai 2007. Creodd Mr Rice dau blât union yr un fath, a chyflwynwyd y llall i’r Slate Valley Museum.   

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall