Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae angen i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol.
DefnyddiwchStori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) i gynllunio eich ymweliad.
Gallwch chi hefyd Archwilio Sain Ffagan mewn 360° i helpu i baratoi dysgwyr am eu hymweliad.
Gallwn ni drefnu galwad fideo byr gydag aelod o'n tîm addysg i groesawu eich dysgwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ofyn cwestiynau a helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am yr ymweliad.
Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o ymweliadau rhithiol am ddim, y gall eich dysgwyr gymryd rhan ynddyn nhw cyn neu ar ôl ymweld â'r Amgueddfa. Fel arfer, mae'r rhain yn para rhwng 45 munud ac awr – ond gallwn ni eu haddasu ar gais. Maen nhw'n rhoi cyfle i'r dysgwyr edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg, Saesneg a BSL.