Ffilm

Gwyddorau Naturiol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ysbrydoli pobl a denu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Yn Amgueddfa Cymru mae casgliad mwyaf a mwyaf cynhwysfawr y byd o sbesimenau daeareg, sŵoleg a botaneg Cymreig – cofnod unigryw o hanes Cymru a'i newid esblygiadol ac amgylcheddol dros 700 miliwn o flynyddoedd.

Mae ein gwyddonwyr yn gwneud gwaith ymchwil gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol a'i rannu drwy sawl cyfrwng, gan gynnwys papurau wed'i cymedroli gan gymheiriaid, canllawiau a basau data adnabod ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag amryw grwpiau a chymunedau ac yn dod â gwyddoniaeth a chanfyddiadau gwyddonol at gynulleidfa ehangach drwy ein casgliadau a'n harddangosfeydd.

Mae ein casgliadau o Gymru a phedwar ban byd yn cynnwys dros 3.5 miliwn o sbesimenau hanes natur.

Llun o wyddonydd amgueddfa yn y storfa fertebratau, wedi'i amgylchynu gan adar tacsidermi
Llun o wyddonydd amgueddfa yn defnyddio microsgop