Ffilm
Bywyd bob dydd yn Abertawe | 1851 | Byw yn y Gymru ddiwydiannol
Fideo addysgol byr a ddatblygwyd gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, i ategu eu casgliadau a'u darpariaeth ar gyfer ysgolion.
Yn y fideo hwn mae dehonglydd mewn gwisg yn trafod elfennau o fywyd bob dydd yn Abertawe yn y 1850au.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Amcanion dysgu:
- Annog ymchwiliad a darganfod.
- Cyfleoedd i fod yn chwilfrydig, i gwestiynu, meddwl yn feirniadol ac ystyried tystiolaeth.
- Sbarduno meddwl newydd a chreadigol.
- Deall y cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau yn well, a sut i’w chymhwyso mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.