Eich Amgueddfa, Eich Llais

Diolch i bawb sydd wedi ymateb i'n harolwg. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cannoedd o ymatebion ystyriol, creadigol ac adeiladol a dderbyniwyd. Byddant yn helpu i lywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Y cam nesaf yw mynd drwy'r rhain i gyd ac ysgrifennu'r strategaeth. Bydd y ddogfen derfynol yn cynnwys ein prif nodau ar gyfer y dyfodol, a sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i'w cyflawni dros y ddegawd nesaf.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n cylchlythyrau am wybodaeth bellach.

Er bod y broses ymgynghori gyhoeddus ffurfiol wedi dod i ben, rydym yn parhau'n ymrwymedig i wrando a dysgu o'ch profiadau a'ch syniadau, felly mae croeso i chi barhau i rannu eich sylwadau a'ch awgrymiadau gyda ni.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad gorffenedig, edrychwch ar y dogfennau isod.