Darganfod ceiniogau o gyfnod Edward Gyffeswr a Gwilym Goncwerwr mewn cae yn Sir Fynwy

Darnau arian wedi'u glanhau'n rhannol a'u glanhau'n gyfan gwbl. Mae pob un yn mesur tua 2cm (0.75 modfedd) ar draws.

Ceiniog Edward Gyffeswr a fathwyd gan Estan yn Henffordd, tua 1060. Mae'n mesur 1.9cm (0.75 modfedd) ar draws.

Ceiniog Edward Gyffeswr a fathwyd gan Estan yn Henffordd, tua 1060. Mae'n mesur 1.9cm (0.75 modfedd) ar draws.

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Olion cwdyn brethyn wedi'u cadw yn y mwyneiddiad. Mae'r ddelwedd hon yn dangos peth o'r gwnïad.

Olion cwdyn brethyn wedi'u cadw yn y mwyneiddiad. Mae'r ddelwedd hon yn dangos peth o'r gwnïad.

Mae fersiwn newydd o'r erthygl ar gael yma.

Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian.

Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au.

Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl.

Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro.

Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau.

Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd.

Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo.

Darllen Cefndir

Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987).

The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.