Darganfod rhywogaeth newydd o ffosil crinoid yn ne Cymru

Cindy Howells

Darganfod unrhyw fath newydd o ffosil yw un o’r digwyddiadau posibl mwyaf cyffrous i balaeontolegydd. Mae ffosil newydd gafodd ei ddarganfod yn ne Cymru – a’r unig o’i fath – wedi cael ei enwi’n Hylodecrinus cymrus i ddangos ei wreiddiau Cymreig.

Yn 2009, roedd Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru, ar daith maes yn astudio creigiau 350 miliwn o flynyddoedd oed (o’r Cyfnod Carbonifferaidd) mewn cildraeth bach ym Mae Gorllewin Angle. Wrth weithio, darganfu Cindy ffosil newydd oedd yn wahanol i bob sbesimen arall a gofnodwyd yn wyddonol. Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd, roedd Cymru’n agos at y cyhydedd ac roedd moroedd bas trofannol yn ei gorchuddio. Mae’r creigiau yma’n awgrymu y bu llawer o stormydd trofannol ffyrnig a chwalodd gregyn organebau morol yn deilchion cyn iddynt gael eu ffosileiddio. Fodd bynnag, mae rhai haenau’n cynnwys ffosilau cyfan, gafodd eu dyddodi mewn cyfnodau mwy llonydd, ac yn un o’r haenau hyn y cafwyd hyd i’r sbesimen newydd.

<em>Hylodecrinus cymrus</em> – yr holoteip a’r unig sbesimen hysbys.
Hylodecrinus cymrus

– yr holoteip a’r unig sbesimen hysbys.

Adluniad o <em>Hylodecrinus cymrus.</em>

Adluniad o Hylodecrinus cymrus.

Ffosil o grinoid ydyw, sef anifail morol bach oedd yn edrych yn debyg i blanhigyn. Mae gan grinoidau goesyn hir ac ystwyth, wedi’i angori yng ngwely’r môr. Ar ben y coesyn, mae strwythur siâp cwpan sy’n cynnwys ei organau mewnol. Mae teimlyddion neu freichiau hir pluog yn ymestyn uwchben yr anifail. Byddai’r rhain yn casglu micro-organebau o ddŵr y môr ac yn eu cyfeirio i lawr i’w stumog.

Cafodd y ffosil newydd ei dynnu’n ofalus o’r creigiau a’i gludo i Gaerdydd. Wedi trafod â’r Athro Tom Kammer o Brifysgol Gorllewin Virginia (sy’n arbenigwr ar grinoidau Carbonifferaidd), penderfynwyd fod y ffosil yn rhywogaeth newydd a’i bod hefyd yn perthyn i grŵp nas gwelwyd y tu hwnt i UDA tan nawr. Rhoddwyd yr enw Hylodecrinus cymrus iddi i ddangos ei gwreiddiau Cymreig. Cyhoeddwyd y disgrifiad o’r ffosil newydd hwn ar-lein yn The Geological Journal. Y sbesimen hwn fydd ‘teipsbesimen’ y rhywogaeth.

O’r dyddiad hwn yn 2013, dyma’r unig sbesimen hysbys o’r rhywogaeth hon.

Roedd moroedd trofannol y Cyfnod Carbonifferaidd yn gyforiog â bywyd gan gynnwys braciopodau, dwyfalfau, gastropodau, cwrelau, pysgod a chrinoidau’n arbennig. Mae creigiau o’r cyfnod hwn yn arbennig o weladwy ar hyd arfordir y de, o Sir Forgannwg i Sir Benfro. O astudio ffosilau, gallwn ddysgu mwy am sut y cafodd y creigiau eu dyddodi ac amgylchiadau byw'r anifeiliaid sydd wedi’u diogelu tu mewn iddynt.

Map daearegol o dde Cymru yn dangos Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro.

Map daearegol o dde Cymru yn dangos Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro.

Geirfa

Teipsbesimenau

yr holoteip, neu’r teipsbesimen sylfaenol, a gyhoeddir gyda disgrifiad mewn cyfnodolyn gwyddonol. Gellir cymharu sbesimenau eraill &acirc;’r teipsbesimen.

Carbonifferaidd

cyfnod daearegol rhwng 359 a 299 miliwn o flynyddoedd yn &ocirc;l.

Braciopodau

anifail morol bach &acirc; chragen.

Gwaddod

tywod a mwd a ddyddodir ar lawr moroedd, afonydd, llynnoedd ac ati.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.