Curadu'n eich gwneud chi'n wallgo!

Dr Victoria Purewal

 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770.

Ffigwr 1 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770. Does dim cliwiau ar y ddalen i ddweud os cafodd y papur hwn ei drin neu beidio. Olion y planhigyn yn ymddatod yn naturiol yw'r staeniau brown.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled. Mae'r afliwiad llwyd yn nodweddiadol o effaith mercwri a'r tasgiadau llachar yn brawf bod mercwri hylif wedi'i ddiferu.

Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Ffigwr 3 Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Gall casgliadau hanes natur ddirywio o ganlyniad i blâu a malltod ac felly'n hanesyddol, defnyddiwyd cemegion i warchod y casgliadau yma i'r dyfodol. Y cemegyn a ddefnyddiwyd amlaf oedd Clorid Mercwri (sychdarth cyrydol). Mae nifer o sbesimenau wedi goroesi erbyn heddiw diolch i fercwri, ond mae sgil-effaith – mae halwynau mercwri'n wenwynig i blâu, ac i bobl.

'Mad as a hatter'

Yn y 19eg ganrif roedd hi'n gyffredin yn y diwydiant creu hetiau i drin felt â nitrad mercwri. Byddai'r mercwri wedyn yn treiddio i groen cynhyrchwr yr hat a'i pherchennog, a gwyddom bellach ei fod yn ymosod ar y system nerfau ganolog ac yn effeithio ar yr ymennydd. Achosodd gwenwyno mercwri i lawer o gynhyrchwyr hetiau ymddwyn yn rhyfedd iawn, a dechreuwyd defnyddio'r ymadrodd Saesneg 'Mad as a hatter'. Mae'n ddigon posibl taw dyma oedd ysbrydoliaeth Lewis Carrol ar gyfer ei de parti gwallgo.

Y broblem fwyaf gyda'r triniaethau yma yw eu bod nhw'n peryglu iechyd, a bron yn amhosibl i'w gweld gan lygad dyn (Ffig. 1).

Diolch i waith ymchwil gan Adran Gadwraeth Amgueddfa Cymru, canfuwyd bod rhai o'r 600,000 sbesimen llysieufa yn y casgliadau wedi'u halogi â mercwri. Gallai hyn beryglu iechyd aelodau'r staff ac ymwelwyr heb ymdrin â'r broblem. Roedd hi'n bwysig gallu dweud pa ddalenni oedd wedi'u trin, gyda pha gemegyn a faint ohono a ddefnyddiwyd. Byddai gwneud hyn yn y dull arferol wedi galw am gyflogi gemegwyr arbenigol, prynu offer dadansoddi drud a blynyddoedd o waith – proses hir a chostus.

Wrth ymchwilio ymhellach darganfu Vicky Purewal, cadwraethydd botaneg Amgueddfa Cymru, bod defnyddio mercwri yn cyflymu prosesau cemegol wrth i bapurau heneiddio, gan roi cliwiau bychain o bresenoldeb yr elfen. Dyfeisiwyd techneg anghyfarwydd benodol oedd yn gallu troi'r cliwiau yma'n wybodaeth gadarn, a hynny heb offer drud – dim ond lamp UV-A fechan. Mae'r ymbelydredd uwch fioled yn achosi i rai prosesau cemegol yn y papur arddangos gwawr fflwrolau o liw penodol: prawf positif o bresenoldeb mercwri (Ffig. 2).

Bu'r ymchwil hwn gan Amgueddfa Cymru'n hanfodol wrth ddatblygu techneg gyflym o adnabod casgliadau wedi'u halogi (Ffig. 3). Mae wedi bod o gymorth wrth gasglu gwybodaeth ar driniaeth sbesimenau dros y blynyddoedd a thrwy hynny, ein helpu i ddiogelu iechyd staff ac ymwelwyr â'r llysieufa. Gall y casgliadau felly gael eu rhannu yn ddeunydd wedi ei drin a deunydd heb ei drin er mwyn eu hail-fowntio a gwaredu cyfran helaeth o'r deunydd gwenwynig o'r llysieufa. Bu'r dechneg i ganfod pa sbesimenau oedd wedi'u trin â mercwri hefyd o gymorth i'r gwaith ymchwil dadansoddi DNA yn y llysieufa, gan fod presenoldeb mercwri yn gallu amharu ar y dystiolaeth DNA y gellir ei dynnu o'r planhigyn.

Mae'r ymchwil hwn yn effeithio ar ddau faes: cadwraeth broffesiynol ac arfer curadurol; ac iechyd a diogelwch defnyddwyr casgliadau'r llysieufa. Ymhlith y sefydliadau sydd wedi elwa o'r dechneg syml, gyflym hon mae'r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon – techneg a ddatblygwyd yma yn Amgueddfa Cymru gan Vicky Purewal.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.