Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Pryfed Dawnsio o Chile

Adrian Plant

Casglu trychfilod, Alerce Andino, Chile.

Casglu trychfilod, Alerce Andino, Chile.

Rhywogaeth <em>Chelipodozus</em> (tua 4mm o hyd).

Rhywogaeth Chelipodozus (tua 4mm o hyd).

Rhywogaeth <em>Cladodromia</em> (tua 4mm o hyd).

Rhywogaeth Cladodromia (tua 4mm o hyd).

Rhywogaeth <em>Empis</em>. Rhywogaeth heb ei disgrifio o grŵp <em>macrorrhncha</em> (tua 6mm o hyd).

Rhywogaeth Empis. Rhywogaeth heb ei disgrifio o grŵp macrorrhncha (tua 6mm o hyd).

Rhywogaeth heb ei disgrifio o <em>Neotrichina</em> (tua 4mm o hyd).

Rhywogaeth heb ei disgrifio o Neotrichina (tua 4mm o hyd).

Mae pob rhywogaeth yn esblygu drwy'r amser, ac mae amgylchiadau megis newid yn yr hinsawdd, symudiad cyfandirol ac ecoleg yn effeithio ar eu dosbarthiad ac amrywiaeth cyfredol - hyd yn oed yng nghyd-destun lleol Cymru. Felly, rhaid i wyddonwyr astudio organebau mewn cyd-destun byd-eang er mwyn gwerthfawrogi eu lle ym Mhren y Bywyd yn gywir.

Mae hyn yn arbennig o wir yn achos trychfilod, gan gynnwys pryfed (Diptera). Yn y gorffennol pell, ymddangosodd eu llinachau esblygol pwysig mewn llefydd sydd bellach wedi eu gwahanu oherwydd bod y cyfandiroedd yn symud oddi wrth ei gilydd. Er enghraifft, esblygodd llawer o rywogaethau pwysig Diptera ym Mhatagonia ac Awstralasia ar adeg pan oedd y tiroedd hyn yn rhan o'r cyfandir hynafol anferth, Gondwana.

Mewn ardaloedd tymherus, mae llawer o'r pryfed a elwir yn bryfed dawnsio (Empidoidea) a gallant gyfrif am 10% o holl rywogaethau pryfed. Mae rhai'n bwydo ar flodau ac maent yn bwysig o ran peillio, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ysglyfaethu anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy'n help mawr i reoli plâu. Mae gan eraill ddefodau paru cymhleth sy'n cynnwys ehediadau ysblennydd a chyflwyno trychfilod meirw fel 'anrhegion'!

Ymddangosodd yr Empidoidea am y tro cyntaf yn Ngondwana yn ystod yr oes Jwrasig, o leiaf 160 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth i'r cyfandir anferth dorri'n ddarnau llai a'r darnau hynny symud ymhellach oddi wrth ei gilydd, bu cynnydd anferth yn amrywiaeth y pryfed hyn.

Mae gwaith ar y cyd rhwng entomolegwyr Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd eraill ar draws y byd wedi gwella ein dealltwriaeth o hanes esblygol y pryfed hyn.

Ar gyfer un o'r projectau, aeth tîm o entomolegwyr o Amgueddfa Cymru a'r Muséum national d'Histoire naturelle ym Mharis ar alldaith i Batagonia dan nawdd CAFOTROP (CAnopée des FOrêts TROPicales).

Y nod oedd chwilio am rywogaethau Gondwanaidd newydd yn fforestydd glaw trwchus a thymherus Patagonia Chile gan ddefnyddio dulliau samplo arbenigol chwilio agos, rhwydo a maglu. Yna, gwnaed gwaith didoli, dosbarthu a chadw'r samplau yn barod ar gyfer eu paratoi a'u henwi yn ôl yn y labordy.

Roedd y fforestydd glaw deheuol a thymherus yn gyfoeth o Empidoidea, ac mewn tair wythnos o gasglu, casglwyd tua 8,000 o sbesimenau, gan gynnwys llawer a oedd yn rhywogaethau newydd i wyddoniaeth.

Mae llawer o'r genera a enwyd bellach ddim ond i'w cael mewn lleoliadau fu unwaith yn rhan o Gondwana, megis Ceratomerus, Clinorhampha a Cladodromia. Un darn o newyddion hynod gyffrous oedd canfod rhywogaethau newydd i'r grŵp Empis macrorryncha, sy'n perthyn yn agos i rywogaethau hysbys y grŵp yn ne-orllewin Awstralia.

Awgryma hyn fod y rhywogaeth wedi esblygu o hynafiad cyffredin a oedd, fwy na thebyg, yn byw cyn i Gondwana wahanu.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.