Ydych chi'n cofio Doctor Carrot a Potato Pete?

Doctor Carrot a Potato Pete

<em>Potato Pete</em>
Potato Pete

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd roedd Prydain yn mewnforio 60% o'i bwyd. Wrth gofio am y prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyflwynoddd y llywodraeth y sustem dogni ym mis lonawr 1940.

Dosbarthwyd llyfrau dogni i bawb a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llefrith lleol. Roedd y rhain yn derbyn digon o fwyd ar gyfer eu cwsmeriaid cofrestredig.

Y bwydydd cyntaf i gael eu dogni oedd menyn, siwgr, bacwn a ham. Ymhen amser cafodd mwy o fwydydd eu hychwanegu at y sustem, ac fe amrywiai swm y ddogn o fis i fis wrth i'r cyflenwad o fwydydd amrywio.

O fis Rhagfyr 1941 roedd popeth arall gwerth eu cael ar y sustem pwyntiau. Cai pob person 16 pwynt y mis i brynu detholiad o fwydydd, fel bisgedi, bwyd tun a ffrwythau sych – os oeddynt ar gael yn y siopau. Roedd yn sustem effeithiol gan ei bod yn galluogi'r llywodraeth i ddynodi gwerth pwynt uchel ar nwyddau prin, ac yna lleihau eu gwerth os oedd digonedd. Yn naturiol, roedd plant yn cael eu trin yn wahanol i oedolion, ac yn derbyn bwydydd ychwanegol oedd yn angenrheidiol ar gyfer eu tyfiant, fel llefrith, sudd oren ac olew'r penfras.

Nid Prydain oedd yr unig wlad â dognau bwyd.

Nid Prydain oedd yr unig wlad â dognau bwyd.

Siopwr yn dileu'r tocynnau ar gyfer y te, siwgr, braster a bacwn a ganiateir ar gyfer un wythnos oddi ar lyfr dogni gwraig tŷ. Caiff y mwyafrif o fwydydd ym Mhrydain eu rhoi ar ddogn a defnyddir yr arwyddnod

Siopwr yn dileu'r tocynnau ar gyfer y te, siwgr, braster a bacwn a ganiateir ar gyfer un wythnos oddi ar lyfr dogni gwraig tŷ. Caiff y mwyafrif o fwydydd ym Mhrydain eu rhoi ar ddogn a defnyddir yr arwyddnod "National" ar gyfer rhai brandiau.

Gerddi Llysiau

Roedd sicrhau bod dognau'r teulu'n parhau tan ddiwedd yr wythnos yn broblem fawr. I ystwytho'r sefyllfa anogwyd y genedl i ddarparu'r cynnyrch eu hunain. Lawnsiwyd yr ymgyrch Dig For Victory ym mis Hydref 1939. Roedd galw ar bawb i gadw rhandir, i balu eu gwelyau blodau a'u lawntiau, a'u troi'n erddi llysiau. Fe'u hargymhellwyd i gadw ieir, cwningod, geifr a moch – anifail arbennig o boblogaidd gan eu bod un bwyta unrhyw weddillion o'r gegin.

Treuliwyd tipyn o amser ac egni ar bropaganda'n hyrwyddo economi a dyfeisgarwch wrth goginio. Cyflogwyd economyddion cartrefi deithio'r wlad i ddangos y dulliau gorau i goginio gyda'r adnoddau prin. Cychwynnodd y Weinyddiaeth Fwyd gyhoeddi taflenni Food Facts ym 1940 ac roedd cylchgronau, papurau newydd a rhaglenni radio dyddiol fel The Kitchen Front a'r Radio Doctor, yn llawn syniadau a risetau ynglŷn â sut i wneud y gorau o'r bwyd ar gael.

Ymddangosai Potato Pete a Doctor Carrot, cymeriadau a gyflwynwyd i hyrwyddo bwyta llysiau, yn y mwyafrif o risetau. Anogwyd y cyhoedd i arbrofi gyda bwydydd newydd ac anghyffredin. 'Doedd tiwna ddim at flas cymdeithas yr Ail Ryfel Byd, sy'n syndod o ystyried ei boblogrwydd heddiw – roedd cig morfil yn fwy amhoblogaidd fyth.

Fitiminau

Gwaethygu wnaeth sefyllfa bwyd ar ddiwedd y rhyfel. Cafwyd prinder bara a thatws yn dilyn cyfnod sych a chynhaeaf gwael ym 1945, a bu rhaid dogni'r rhain am y tro cyntaf. Erbyn 1948 roedd y lwfans bwyd llawer yn is na'r cyfartaledd yn ystod y rhyfel. Codwyd y cyfyngiadau ar de ym 1952 – rhyddhad mawr i genedl o yfwyr te. Tynnwyd hufen, wyau, siwgr a fferins oddi ar y sustem ym 1953 a menyn, caws ac olew coginio ym 1954. Daeth 14 mlynedd o ddogni i ben ar 4 Gorffennaf 1954, pan godwyd y cyfyngiadau ar gig a bacwn.

Oherwydd y prinder bwyd yn ytsod y cyfnod dogni, bu'n rhaid i deuluoedd newid eu patrwm bwyta. Cafodd bawb lai o gig, brasder, wyau a siwgr nag erioed o'r blaen. Golygai'r dogni bod y tlotaf o'r gymdeithas yn derbyn mwy o brotein a fitaminau yn eu deiet. Canlyniad hyn oedd cynnydd syfweddol yn iechyd y genedl. Cafwyd gwellhad o ran iechyd cyffredinol plant, ac ar gyfartaledd roeddynt yn dalach ac yn drymach na phlant cyn y rhyfel. Bu lleihad yn nghyfradd marwolaethau babanod a chynnydd o ran oedran cyfartalog drwy farwolaeth naturiol.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
27 Chwefror 2019, 15:44

Dear Angry Man,

You are quite right. This article previously used a mixture of 'Captain Carrot' and 'Doctor Carrot', but we have now corrected it so that the good doctor is referred to by his proper title throughout. We hope that no offence was caused.

Best wishes,

Marc
Digital Team

ANARY MAN
27 Chwefror 2019, 13:54
IT IS NOT CAPTAN CARROT IT IS DOCTOR CORROT!!!!!!!