Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif

Rachel Conroy

Powlen bwnsh gilt arian

Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2.

Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd.

Gwneud pwnsh

Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu.

Y Fowlen Bwnsh

Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain.

Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl:

"...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur.

Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810.

Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh.

Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751'

Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751.

Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen

Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5.

Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd.

Partïon gwyllt ac anwar

Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol.

Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5).

Yfed yn ormodol

Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo.

O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn.

Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'.

 Llestr pwnsh porslen past meddal

Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2.

Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian

Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845.

Llyfryddiaeth:

Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21.

(anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO

http://www.oldbaileyonline.org

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.