"Traed Mewn Cyffion": Cymru a Chaethwasiaeth
Mae'r rhan fwyaf o gymdeithasau wedi elwa ar lafur caethweision ar ryw adeg yn eu hanes. Mae hyn yn wir am Gymru hefyd.
Roedd y fasnach ryngwladol mewn caethweision yn fynnu o ddechrau'r 16fed ganrif (tua 500 mlynedd yn ôl) hyd at 200 mlynedd yn ôl. Ym 1807, pasiodd senedd Prydain Ddeddf i ddiddymu masnachu caethweision o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd pobl dduon a phobl wynion wedi bod yn ymgyrchu i atal caethwasiaeth am dros 30 o flynyddoedd cyn i'r Ddeddf ddod i rym. Hyd yn oed ar ôl 1807, ni chafodd y caethweision a oedd eisoes yn byw mewn trefedigaethau Prydeinig eu rhyddhau tan 1838.
Roedd caethwasiaeth yn parhau i fod yn gyfreithlon mewn rhai gwledydd eraill am fwy na 50 mlynedd arall.
Heddiw, mae caethwasiaeth anghyfreithlon yn dal i fodoli mewn llawer rhan o'r byd — hyd yn oed yng Nghymru.
Caethwasiaeth

Roedd cadwyn caethweision a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, Ynys Môn, wedi'i gwneud ar gyfer pump o bobl. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn (tua 2,300 o flynyddoedd yn ôl). Pan ddaeth y Rhufeiniaid i oresgyn Prydain, tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, daethant â'u caethweision eu hunain gyda nhw – caethweision o genhedloedd ledled yr Ymerodraeth Rufeinig yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol.

Ail-luniad o sut y gallai cadwyn Llyn Cerrig Bach fod wedi cael ei defnyddio.

Rhoddwyd y cwpan cymun hwn o aur Guinea i Eglwys y Trallwng ym 1662 gan Thomas Davies. Roedd yn berchen ar blanhigfa gaethweision yn Barbados ac ef oedd yr Asiant Cyffredinol i ragredegydd y Cwmni Affricanaidd Brenhinol yng Ngorllewin Affrica.

Caethweision yn torri câns siwgr ar blanhigfa Henry De La Beche yn Jamaica, 1824.

Llwybrau'r 'Fasnach Drionglog'. Mae'r map hwn yn dangos beth a fyddai'n cael ei gludo ar bob rhan o'r daith.

Byddai copr Cymreig wedi ei ddefnyddio i wneud y pres ar gyfer y manilas hyn yn Birmingham neu Fryste. Y 'breichledau' hyn a seiliwyd ar ddyluniad brodorol o Orllewin Affrica oedd y brif arian cyfred ar gyfer prynu caethweision.

Mae'r olygfa hon o chwarel lechi'r Penrhyn yn dangos aruthredd y cloddiadau. Fe'u dechreuwyd ym 1785 gan Richard Pennant, AS dros Lerpwl a pherchennog planigfeydd caethweision mawr yn Jamaica.

Comisiynwyd y crochenydd Josiah Wedgwood gan y Gymdeithas Ddiddymu i greu'r ddelwedd hon o gaethwas yn penlinio ym 1788. Daeth yn icon ar gyfer mudiadau gwrthgaethwasiaeth ledled y byd yn ystod y can mlynedd nesaf.

Roedd llawer o gymdeithasau gwrth-gaethwasiaeth wedi'u sefydlu ledled Cymru yn ystod yr ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth rhwng 1807 a 1838. Yn y degawdau ar ôl 1838, trodd eu sylw at bwnc caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau. Cynhyrchwyd y poster hwn ar gyfer taith ddarlithio gan gaethwas wedi ei ryddhau yn ymgyrchu dros ddiddymu yn Unol Daleithiau America. Mae'n defnyddio copi amrwd o ddelwedd Josiah Wedgwood o "gaethwas yn penlinio" a berthynai i 1788.

Tyfodd y mudiad diddymu ym Mhrydain o'r Pwyllgor ar gyfer 'Diddymu Masnach Caethweision Affrica' a ffurfiwyd ym 1787. Roedd agwedd y Cymry at yr ymgyrch yn amrywio. Roedd llawer o bobl yn dibynnu ar y fasnach am eu bywoliaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Cefnogodd y bardd Edward Williams (Iolo Morganwg, 1747-1826) y boicot o nwyddau a gynhyrchid gan gaethweision. O'i siop yn y Bontfaen gwerthai "Felysion Dwyrain India, heb eu llygru gan waed dynol" yn unig.

Gini yn dangos y Brenin William III a'r Frenhines Mary II a fathwyd ym 1694. Mae rhai geiriau yn tarddu o'r fasnach gaethwasiaeth. Er enghraifft, gini oedd darn aur a gafodd ei fathu rhwng 1663 a 1816. Cafodd y darnau arian eu gwneud yn wreiddiol o'r aur a ddaeth o Gini yng Ngorllewin Affrica.

Castiwyd y caronâd hwn (math o fagnel) ym 1802 yng Ngweithfeydd Haearn Cyfarthfa pan mai'r gweithfeydd hyn oedd y mwyaf yn y byd. Ddefnyddiwyd ar longau a oedd yn cludo caethweision.

Atgynhyrchiad gweithredol o locomotif stêm Trevithick - Roedd rhai o’n datblygiadau mwyaf wedi’u hariannu drwy’r fasnach mewn bywydau dynol.
sylw - (7)
I've been in touch with many of our newfound cousins, to exchange information, and I'm delighted to say that firm friendships have been formed. Though, the search for our common ancestor continues.
Did the actual John Brown (of the battle hymn "John Brown's body lies a rotting in the grave but we go marching on..") lecture there ?
A figure legend of my book in long preparation "Love and War in Cuba" which discussed the Roman invasion of Anglesey reads:
Figure XXX The sacred lake of Llyn Cerrig Bach, “… Perhaps one of the most important iron age sites in the country. A Sacred Lake, into which many votive goods were offered from the late Iron Age (2nd century BC), until just before the Conquest of Anglesey by the Romans. Eleven swords, eight spearheads, wheels of up to 22 different chariots, parts of a shield, and slave chains were found during peat extraction in the Second World War.” Image is from a google site photograph by Tim Prevett. The first discovery, that of the slave chains, was made first by the hard laboring Irish navvies working for Lord McAlpine in the years Dad was stationed there. Strangely similar slave chains were captured by putative maternal ancestor Sancho el Fuerte, from the slave-warriors of the Arab Chief Miramamolins, defeated in the battle of Las Navas de Tolosa in 1212.
The old shield of (now Spanish) Navarra can be found at Navarra (accessed 1-20-2016) in: Heráldica Española - Spanish Civic Heraldry http://www.ngw.nl/int/spa/prov/navarra.htm. Some of these chains are found in the little chapel of Sancho El Fuerte in Roncevalle, Spain. Somewhere in my reading, if memory serves, there is a note on the friendship between Richard the Lionheart and Sancho El Fuerte,