Awyrfeini
Darnau o graig naturiol o'r gofod sy'n syrthio i'r ddaear yw gwibfeini. Wrth iddynt basio drwy'r atmosffer mae'r ffrithiant yn cynhesu'r haenau allanol gan achosi iddynt ddisgleirio'n llachar. Dyma sy'n gyfrifol am ffenomen y sêr gwib.
Mae rhai gwibfeini cyn hyned â, neu'n hynach na'r Ddaear. Mae eu cyfansoddiad cemegol yn cynnwys gwybodaeth am hanes cynharaf cysawd yr haul, a gall roi cliwiau i ni am y ffordd y cafon nhw, a'n daear ni, eu creu.
Daw'r detholiad delweddau isod o gasgliad gwibfeini Amgueddfa Cymru — cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy.
Meteorites

Lleoliad:
Talaith Somervell, Texas, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru

Lleoliad:
Mynyddoedd Sacramento, Talaith Eddy, New Mexico, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten - Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig

Lleoliad:
Odessa, Talaith Ector, Texas, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten — Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig.

Lleoliad:
Cape York, Greenland, Gogledd America.
Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten

Lleoliad:
Happy Canyon, Talaith Armstrong, Texas, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i sleisio

Lleoliad:
Taiban, Talaith De Baca, New Mexico, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru

Lleoliad:
Talaith Arforol, Rwsia.
Cofnodwyd y gwymp am 10:38 am ar 12 Chwefror 1947 mewn coedwig drwchus ym Mynyddoedd Sikhote Alin, 40km o Novopoltavka. Canfuwyd 106 o dyllau gwrthdrawiad, y mwyaf ohonynt yn 28m

Lleoliad:
Beddgelert, Eryri, Gwynedd.
Gorffeniad: Atgynhyrchiad

Lleoliad:
Krasnojarsk, Yeniseysk, Krasnoyarskiy Kray, Rwsia.

Lleoliad:
Estherville, Emmet, Iowa, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru

Lleoliad:
Talaith St Genevieve, Missouri, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten

Lleoliad:
Samrong, Cambodia, Asia.

Lleoliad:
Gwlad y Tai, Asia. — Mae'r dull darganfod a'r union leoliad yn anhysbys.

Lleoliad:
Kenna, Talaith Roosevelt, New Mexico, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Slab wedi'i dorri a'i lathru

Lleoliad:
Weldona, Talaith Morgan, Colorado, Unol Daleithiau America.
Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru

Lleoliad:
Gibeon, Namibia, Affrica.
[Darn mawr o wibfaen haearn a syrthiodd yn Gabon, Nambia (a ddarganfuwyd ym 1836)]