Diwrnod Santes Dwynwen

Pryd y dethlir Diwrnod Santes Dwynwen?

Dethlir Diwrnod Santes Dwynwen yng Nghymru ar 25 Ionawr i'w choffáu fel nawddsant cyfeillgarwch a chariad.

Pwy oedd Dwynwen?

Roedd Dwynwen yn byw yn ystod y 5ed ganrif, yn un o'r harddaf o 24 merch Brychan Brycheiniog.

Pam mai Dwynwen yw nawddsant serch yng Nghymru?

Yn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.

Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.

Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.

Ble 'mae Eglwys Santes Dwynwen?

Erys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!

Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.

Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.

Cymerwch olwg ar ein siop ar lein am syniadau Dydd Santes Dwynwen

Ymweld â'r siop ar-lein

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Frank J DiBella
29 Ionawr 2022, 18:05
Wonderful story of God's mercy and love. More people should know of this saint.