Dydd Gŵyl Dewi

 

Pryd mae Dydd Gŵyl Dewi?

Ar 1 Mawrth bob blwyddyn, byddwn ni'r Cymry yn dathlu ein nawddsant, Dewi.

Beth ydyn ni’n ei wybod am fywyd Dewi Sant?

Ychydig iawn wyddon ni yn bendant am hanes ei fywyd. Mae'r wybodaeth brin sydd ganddon ni yn dod o hanes a ysgrifennwyd gan Rhygyfarch tua diwedd yr 11eg ganrif.

Pryd oedd Dewi Sant yn fyw?

Yn ôl llawysgrif Ladin Rhygyfarch bu farw Dewi yn y flwyddyn 589. Enw ei fam oedd Non, ac roedd ei dad, Sant, yn fab i Ceredig, brenin Ceredigion. ⁠⁠

Cafodd ei addysg yng Ngheredigion cyn mynd ar bererindod drwy dde Cymru a gorllewin Lloegr, lle sefydlodd nifer o ganolfannau crefyddol o bwys, fel Glastonbury a Croyland. Aeth hefyd ar bererindod i Jerwsalem, lle cafodd ei wneud yn archesgob.

Pam mai Dewi yw Nawddsant Cymru? ⁠

Daeth Dewi yn ôl i fyw yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi), lle sefydlodd gymuned grefyddol asetig a llym iawn.⁠⁠

Mae sôn ei fod wedi cyflawni nifer o wyrthiau – un tro, pan oedd e'n pregethu yn Synod Brefi, fe achosodd e i'r ddaear godi o dan ei draed fel y gallai pawb ei weld a'i glywed. ⁠Ond mae'n anodd gwybod faint o wir sydd i'r hanes â ysgrifennodd Rhygyfarch.

Rhaid cofio taw mab i Esgob Tyddewi oedd Rhygyfarch, a bod y Fuchedd (hanes bywyd y sant) wedi'i hysgrifennu fel propaganda i godi statws Dewi a gwarchod Tyddewi rhag cael ei goresgyn gan Gaergaint a'r Normaniaid.

Sut ddaeth Dewi Sant yn enwog?

O'r 12fed ganrif ymlaen, lledodd enwogrwydd Dewi drwy dde Cymru i Iwerddon a Llydaw. Daeth Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn gyrchfan boblogaidd i bererinion, yn enwedig ar ôl i Dewi gael ei gydnabod yn swyddogol fel sant Catholig yn 1120.

Baner gyda chroes felen ar gefndir du.

Baner Dewi Sant

Ar ôl y cyfnod hwn mae cyfeiriadau cyson at Dewi ym marddoniaeth beirdd canoloesol fel Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi. Yn 1398, rhoddwyd gorchymyn i bob eglwys yn nhalaith Caergaint i gadw gŵyl Dewi.

Er iddi orffen fel gŵyl grefyddol gyda'r Diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif, daeth diwrnod ei ben-blwydd yn ŵyl genedlaethol o'r 18fed ganrif ymlaen.

Sut mae pobl yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi?

Heddiw mae ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru yn dathlu ar 1 Mawrth. Y traddodiad ar y diwrnod hwnnw yw gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr – dau o'n harwyddion cenedlaethol – ac i'r plant wisgo'r wisg genedlaethol.

Ond pa mor agos yw'r gwisgoedd hyn at beth oedd pobl yn ei wisgo yn y gorffennol? ⁠

Pam fod y genhinen yn symbol cenedlaethol Cymru?

Bwndel o gennin wedi ei glymu â chortyn, sydd wedi ei osod ar ben baner y Ddraig Goch.

Symbol cenedlaethol - y genhinen

Yn ôl yr hanes, Dewi Sant wnaeth annog milwyr Cymru i wisgo cennin yn eu helmedau mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid yn ystod y 6ed ganrif, ac ym Mrwydr Crecy yn 1346, ymladdodd saethwyr dewr a theyrngar o Gymru mewn cael o gennin. ⁠

Erbyn 1536, pan roddodd Harri VIII genhinen i'w ferch ar 1 Mawrth, roedd yn cael ei chysylltu â Dydd Gŵyl Dewi. ⁠Mae'n bosibl bod y Tuduriaid wedi cymryd y lliwiau gwyrdd a gwyn fel eu lliwiau teuluol o'r genhinen. ⁠ ⁠

Pryd ddechreuodd pobl wisgo cennin Pedr ar Ddydd Gŵyl Dewi?

Cennin Pedr melyn yn blodeuo mewn cae.

Symbol cenedlaethol - y genhinen Bedr

Dim ond yn ddiweddar y daeth y cennin Pedr yn symbol cenedlaethol pwysig.

Daeth yn flodyn poblogaidd yn y 19eg ganrif, yn enwedig gan fenywod, a cododd ei statws eto pan gafodd ei wisgo gan y prif weinidog o Gymru, David Lloyd George, ar ddydd Gŵyl Dewi ac mewn seremonïau yn 1911 i Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.