Arferion y Nadolig

Mae tymor y Nadolig wedi cael ei ddathlu yn Ewrop ers ymhell cyn cyfnod Cristnogaeth ac mae mor boblogaidd heddiw ag erioed. Yng Nghymru, mae’r ‘gwyliau’ yn cyfeirio at gyfres o wyliau sy’n digwydd dros gyfnod o 12 diwrnod pan fydd y rhan fwyaf ohonom – am resymau crefyddol neu seciwlar – yn dathlu a llawenhau, i nodi diwedd un flwyddyn ac i edrych ymlaen at y nesaf.

O ystyried pwysigrwydd y Nadolig yng Nghymru drwy’r canrifoedd, nid yw’n syndod fod cynifer o arferion a thraddodiadau wedi datblygu o gwmpas y cyfnod. Er i’r rhan fwyaf ohonynt ddarfod gyda thwf diwydiant tua diwedd y 19eg ganrif, mae ambell un – fel canu plygain – wedi goroesi mewn rhai ardaloedd.

Câi’r gwasanaeth plygain ei gynnal rhwng 3 a 6am ar fore Nadolig, wrth i bentrefwyr wneud eu ffordd tuag eglwys y plwyf yn dilyn noson o ganu, dawnsio a gwneud cyflaith. Wedi cyrraedd yr eglwys, byddent yn canu carolau, rhai hir a digyfeiliant fel arfer. Byddai grwpiau’n cymryd eu tro i berfformio – wrth i un orffen, byddai un arall yn barod i gymryd eu lle.

Wedi’r plygain roedd gweddill diwrnod Nadolig yn llawn hwyl a miri. Roedd digon o fwyd a diod, a gemau o bob math yn y prynhawn. Ymysg traddodiadau eraill yr ŵyl roedd defod y Fari Lwyd, gwaseilio a hela’r dryw – seremonïau i ddymuno lwc dda dros y misoedd i ddilyn. Ar ddydd Calan, byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ yn casglu Calennig.

 

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau Nadolig cyffrous sydd gan Amgueddfa Cymru ei gynnig eleni. 

 

 

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.