Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd: Hel Calennig

Blwyddyn Newydd Dda!

Symbol o obaith a dechreuad ffres yw’r flwyddyn newydd, a phob Ddydd Calan wnawn addunedau a cheisiwn droi ddalen newydd. Nid yw’n syndod felly, fod sawl arferiad ynghylch yr adeg hon yn gysylltiedig â rhagweld y dyfodol, ac yn ôl traddodiad, mae ymddygiad unigolyn ar Ionawr 1af yn siŵr o ddylanwadu ar ei ffawd am y flwyddyn ganlynol.

Cawn arferion croesawi neu adael i mewn y flwyddyn newydd, dros Brydain gyfan, ac yng Nghymru, roedd yr ymwelydd cyntaf i’ch cartref o bwys aruthrol, gan fod tipyn yn dibynnu ar eich nodweddion personol. Yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin, er enghraifft, roedd e’n anlwcus i ddwy fenyw weld ei gilydd yn gyntaf, yn yr un modd i ddau ddyn wneud hynny. Yn ôl pobl Pencoed, roedd e’n anlwcus i weld dyn a gwallt coch yn gyntaf. Ymysg coelion eraill, yn Sir Benfro byddai dod a thorth ffres i mewn i’r tŷ ar Ionawr 1af yn dod a lwc dda.

Beth yw calennig?

Traddodiad adnabyddus Cymreig, sy’n parhau mewn rhai ardaloedd, yw casglu calennig (sef rhodd flwyddyn newydd), lle byddai plant yn codi’n gynnar er mwyn cario o ddrws i ddrws, fel cludwyr lwc dda, afalau addurnedig, gyda thair cangen a sbrigyn o goed bocs a chnau collen.

Fel arfer cana’r plant bennill syml a derbyn amdani rodd o fwyd neu arian. Dywedodd Elias Owen yn 1878:

Cofiaf am un ffarmwr a baratôdd bentwr o arian yn barod am y dydd, ac ni fyddai’r un plentyn yn gadael ei dy heb geiniog. Byddai’r plentyn cyntaf, os oedd yn fachgen, yn derbyn arian, gan ei fod yn lwcus i fachgen ddymuno blwyddyn newydd dda i chi yn gyntaf. Ar y llaw arall, os mai merch a wnâi, byddai’r flwyddyn ganlynol yn un anffortunus.

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904 - 1910

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904-1910

Dyma ichi bennill a genid yng Ngheredigion a sir Benfro gynt:

Mi godais heddiw ma's o'm ty
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws.

Beth yw arferiad tywallt dŵr Calan?

Roedd arferiad tywallt dŵr Calan yn gyffredin mewn rhai mannau o Gymru, pan fyddai plant yn llenwi cwpanau neu bowlenni a dŵr ffynnon ar fore Dydd Calan, a gwlychu darnau o focs, myrtwydd ac uchelwydd ynddo. Teflid y dŵr wedyn ar ddwylo ac wynebau oedolion, neu o gwmpas y tŷ, er mwyn cael gwared â’r hen flwyddyn a chroesawu’r newydd. Fel arwydd o ddiolch i’r plant am buro a glanhau’r tai, rhoddid anrheg fach iddynt.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

sylw(5)

Cyril Evans
31 Rhagfyr 2021, 13:24
Dyna bennill byddai'n cael ei ganu yn ardal Llanio ym mhlwyf Llanddewibrefi ddechrau'r ganrif diwethaf

Wel meistres meistres codwch, cyfodwch cynnwch dan,
Mae heddiw'n flwyddyn newydd sbon, na bu erioed o'r blan.
Mae'r hen un wedi mynd, a mynd a llawer ffrind.
Mae wedi mynd a llawer ffrind, a'm gadael i a'r ol.
Am gadael i ar ol (x2)
Mae wedi mynd a llawer ffrind am gadael i ar ol.

Enid Cole
29 Rhagfyr 2021, 16:27
Pryd oedd fy nhad yn blentyn oedd yn arferiad i fynd i ganu o amgylch y fro i gasglu calennig . Buodd fy chwaer a finne hefyd yn mynd i ganu am calennig yn diwedd y 50'au a dechre y 60'au . Chofiaf Am un teulu o blant yn casglu yn ein bro y 70
au hefyd . Yr arferiad wedi gorffen Ers blynyddoedd bellach . Dysgodd fy nhad y penillion oedd ef yn arfer eu Canu . Deallaf ei ewythr oedd wedi eu hysgrifennu i'w chanu i don y " mochyn du ".
Wele eto flwyddyn Newydd. Ar y ddol ac ar y mynydd Flwyddyn lawn o bob benithion Fydde hon i chwi gyfeillion Flwyddyn lawn fyddo hon. Flwyddyn lawn fyddo hon
Rhowch galennig inni'n ddiddig A A gewch Flwyddyn Lawen Lon. Blwyddyn Newydd dda ( Gogledd Sir Benfro)
7 Ionawr 2016, 23:45
Roedd fy nhadcu a'm teulu arfer rhoi calennig ini ac nawr mae fy mam yn parahau gyda'r draddodiad wrth roi calennig i'm mhlant - mae'n bwysig i gadw'r traddodiadau fel bod ein plant yn parhau a nhw !
31 Rhagfyr 2015, 17:58
I still love reading and hearing about the old Welsh customs. It makes my heart sing thanks
30 Rhagfyr 2015, 22:42
Pan oeddwn i'n blentyn yn Llanon, Sir Aberteifi, byddem yn mynd i hela Calennig fore dydd Calan ond roedd yn rhaid gorffen am hanner dydd felly roedd rhaid codi'n fore i gael mynd yn glou o dy i dy a thrio cyrraedd y ffermydd hefyd gan eu bod hwy yn tueddu i fod yn fwy hael!! Byddai fy nhad yn mynd i'r banc y diwrnod cynt i gael ceiniogau newydd sbon i'w rhoi i'r plant fyddai'n galw gyda ni. Ein rhigwm ni oedd

Rhowch galennig yn galonnog
I blant bach sydd heb un geiniog. !!

Mi gefais dipyn o siom symud i ardal Abertawe ar ol priodi a darganfod nad oedd yn arfer bellach yma i'm plant i.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.