Dysglau yn y Gors: Datgelu Trysor Langstone

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin.

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin. Cyflawnwyd fel rhan o achos o drysor gan staff Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlydd efydd o ddiwedd yr Oes Haearn, wedi'u haddurno mewn arddull Celfyddyd Geltaidd. Gwnaed y darganfyddiadau wrth chwilio am fetel mewn cae isel ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r canfyddiadau prin ac yn dangos sut mae gwaith maes ac ymchwil yr amgueddfa yn cynorthwyo i adrodd eu stori.....

Y llestri efydd

Roedd y celc hwn o ddysglau a 'hidlydd gwin' ar un adeg yn set yfed, ar gyfer ardywallt a hidlo hylifau. Efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer paratoi ac yfed y gwin Canoldirol ffasiynol newydd. Neu efallai bod iddynt ddefnydd meddygol neu grefyddol.

Mae gan y dysglau waelod crwn, ac ymylon wedi'u ffurfio'n ofalus. Er bod un ychydig yn fwy na'r llall, mae'r hidlydd yn eistedd yn gysurus yn y ddau. Mae gan y dysglau ddarnau addurnedig o dan yr ymyl, lle'r oedd modrwyau yn cael eu gosod ar gyfer eu hongian a'u storio. Mae gan yr hidlydd ymyl llydan a chorff crwn, gyda modrwy i'w hongian. Addurnwyd y gwaelod â phatrwm hidlo wedi'i gynllunio'n ofalus, wedi'i gyflawni drwy dorri tyllau bychain crwn yn ofalus. Mae'r patrwm tyllau yn ffurfio tri siâp trymped, o amgylch patrwm trisgell tair coes. Gwelir y cynllun trisgell yn aml mewn Celfyddyd Geltaidd ar waith metel Oes Haearn yng Nghymru.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Gwnaed y ddwy ddysgl efydd o Langstone yn ystod diwedd yr Oes Haearn (50 CC-60 OC). Daethpwyd o hyd i enghreifftiau blaenorol ledled de orllewin a de ddwyrain Lloegr, weithiau mewn mannau dyfrol ac weithiau mewn beddau. Mae'r rhain, ac adroddiadau am ddarn o ddysgl debyg yn ddiweddar o Llandeilo Gresynni (Sir Fynwy), yn dangos eu bod yn cael eu defnyddio ledled de Cymru. Mae darganfyddiadau Langstone yn darparu cyfle prin i astudio darganfyddiad diweddar gan ddefnyddio technegau archeolegol modern.

Yn y gorffennol, ystyriwyd hidlwyr gwin o'r math hwn fel rhai o'r cyfnod Rhufeinig cynnar (75-150 OC), gydag enghreifftiau hysbys o Maenorbŷr (Sir Benfro) a Coygan (Sir Gaerfyrddin). Fodd bynnag, mae'r enghraifft hon, a ganfuwyd gyda set o ddysglau o ddiwedd yr Oes Haearn, yn awgrymu eu bod wedi cychwyn cael eu gwneud a'u defnyddio ychydig yn gynharach, rhwng 40-70 OC yn ôl pob tebyg.

Pam fod llestri gwerthfawr a chyflawn yn cael eu claddu mewn cors?

Rhai metrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y celc, daethpwyd o hyd i

dancard pren cyflawn o oedran tebyg ar yr un pryd. Awgryma hyn fod arwyddocâd arbennig i'r lle, yn gysylltiedig gydag yfed a chladdu llestri yfed.

Cloddiwyd dau bwll prawf bychan, a datgelwyd union leoliad y canfyddiadau hyn, o fewn yr un haenen fawnog. Roedd y llestri wedi cael eu gosod yn ofalus ar ymyl y gors isel neu lyn bas. Gerllaw, yng nghanol y gors, ar ynys fechan o raean, mae safle fila Rufeinig hysbys. Fodd bynnag, mae'r ynys anghysbell hon yn safle anarferol ar gyfer aneddiad. Efallai iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf fel man o bwysigrwydd crefyddol, cyn dod yn drigfan o bwysigrwydd yn y cyfnod Rhufeinig.

Rhoddion i'r duwiau

Roedd claddu gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yn arfer cyffredin ledled gogledd orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn. Dewiswyd y mannau hyn ar gyfer seremonïau i roi eitemau gwerthfawr i'r duwiau a oedd yn trigo yno. Efallai mai'r rhesymeg dros y weithred hon oedd y straen a brofwyd gan y gymuned Oes Haearn lleol. Yn ystod canol y ganrif gyntaf OC, roedd llwyth Silures de Cymru ynghanol gwrthdaro chwerw a pharhaus gyda byddin Rufeinig. Efallai bod rhoddion o'r fath yn arwydd o fesur brys, galwad ar rym y duwiau Celtaidd i gynorthwyo yn erbyn y llu ymosodol.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.