Pan oedd yfed te yn arfer ffasiynol, drud

Rachel Conroy

Tebot porslen Tsieineaidd, tua 1700-20.

Ffigur 1: Tebot porslen Tsieineaidd, tua 1700-20.

Powlen de a soser Dsieineaidd, tua 1760-70.

Ffigur 2: Powlen de a soser Dsieineaidd, tua 1760-70.

Tebot llestri hufen, Crochendy Leeds, tua 1775.

Ffigur 3: Tebot llestri hufen, Crochendy Leeds, tua 1775.

Powlen drochion, Swydd Stafford, 1740au.

Ffigur 4: Powlen drochion, Swydd Stafford, 1740au.

Manylyn o William Hogarth, 'Industry and Idleness: The Industrious 'Prentice Married', 1747

Ffigur 5: Manylyn o William Hogarth, 'Industry and Idleness: The Industrious 'Prentice Married', 1747

 Jwg hufen, porslen Tsieineaidd, tua 1771.

Ffigur 6: Jwg hufen, porslen Tsieineaidd, tua 1771. Rhan o set o lestri te a wnaed ar gyfer Penry Williams (1714-1781) o Benpont, Aberhonddu.

Powlen de a soser borslen, Worcester, 1755-8

Ffigur 7: Powlen de a soser borslen, Worcester, 1755-8

Tegell, stand a lamp sy'n llosgi gwirod gan Robert Watts, 1711-12.

Ffigur 8: Tegell, stand a lamp sy'n llosgi gwirod gan Robert Watts, 1711-12.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yfed te yn weithgarwch hynod ffasiynol ymhlith byddigions cefnog.

Cafodd te ei fewnforio am y tro cyntaf i Brydain o Tsieina yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg gan yr East India Company. Ar y cychwyn, ei newydd-deb oedd yn apelio a chafodd ei hyrwyddo am ei nodweddion iachusol.

Te gwyrdd

Y te mwyaf cyffredin oedd bohea, math o de du, ond roedd te gwyrdd yn boblogaidd hefyd. Ar y cychwyn, yfwyd y te yn wan heb laeth, gan ddilyn traddodiad Tsieina. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llaeth neu hufen a siwgr.

Tebotau a chistiau te (dan glo)

Dim ond y bobl fwyaf cyfoethog oedd yn gallu fforddio te. Roedd yn cael ei gadw mewn cistiau te dan glo a oedd yn cael eu rheoli gan foneddiges y tŷ. Roedd morwynion domestig yn derbyn lwfans te fel rhan o'u cyflog.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, bu cynnydd aruthrol mewn nwyddau'n ymwneud â the, ac mae sawl enghraifft dda yn y casgliad celfyddyd gymhwysol yn Amgueddfa Cymru. Ar y cychwyn, gwnaed y nwyddau hyn o ddeunyddiau drud iawn, yn enwedig arian a phorslen wedi'i fewnforio o Tsieina (ffigurau 1 a 2). Yn ddiweddarach, wrth i cerameg a phlât arian rhatach gael eu cynhyrchu, dechreuodd y dosbarth canol efelychu arferion y bobl gefnog (ffigur 3).

Daeth yfed te yn fwy cyffredin tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn dilyn dileu dyletswyddau mewnforio ym 1784, daeth te yn rhan bwysig o ddeiet pobl dlawd.

Te prynhawn

Roedd difyrru ffrindiau trwy gynnig te prynhawn yn rhan bwysig o fywydau menywod. Roedd dewis gwrthrychau ar gyfer y bwrdd te yn hollbwysig. Wrth ymweld â Lloegr ym 1784, nododd y Duc de Rochefoucauld fod yfed te yn rhoi cyfle i bobl gyfoethog ddangos eu gwychder trwy debotau, cwpanau ac ati (dyfynnir yn Clifford 1999: 161).

Disgwyliwyd i westeion fod yn foesgar ac ymddwyn mewn ffordd arbennig, gan gynnwys siarad am bynciau boneddigaidd fel y celfyddydau, theatr a cherddoriaeth.

Powlenni te

Am y rhan fwyaf o'r ddeunawfed ganrif, yfwyd te yn y dull Tsieineaidd, o bowlen heb ddolen. Galwyd y powlenni hyn yn "ddysglau te" neu "basons". Mae'r bowlen drochion fendigedig hon, a ddefnyddiwyd wrth y bwrdd i rinsio gwaddodion o bowlenni te, yn dangos tair menyw yn mwynhau te gyda'i gilydd (ffigur 4). Fel arfer, dangosir y powlenni hyn yn cael eu dal gyda'r bysedd ar yr ymyl a'r bawd o dan y gwaelod (ffigur 5).

Allforion o Tsieina

Roedd powlenni a thebotau porslen yn cael eu hallforio gyda'r te. Roedd eu tryleuedd a'u harwynebau gwynion yn apelio'n arw at bobl, ac roeddent yn cael eu casglu'n frwd.

Dechreuodd cynhyrchwyr porslen Tsieina wneud gwrthrychau'n arbennig ar gyfer y farchnad Ewropeaidd, megis standiau tebotau, jygiau llaeth, basnau siwgr, hambyrddau llwyau a phowlenni trochion (ffigur 6). Ar ôl iddyn nhw ddeall y gyfrinach o gynhyrchu porslen, dechreuodd ffatrïoedd yn Lloegr ac ar y Cyfandir gynhyrchu llestri te Tsieineaidd (ffigur 7).

Tegellau ac yrnau

Roedd tebotau'n cael eu llenwi gan degellau dŵr poeth ar standiau crand neu fersiynau llai ar fyrddau, gyda llosgwyr i gadw'r dŵr yn boeth (ffigur 8). Tua'r 1760au, cafodd y tegellau eu disodli gan yrnau te a oedd yn cael eu twymo gan losgwyr golosg ac, o'r 1770au ymlaen, barrau haearn a oedd yn cael eu gosod mewn "llawes" yn yr wrn (ffigur 9). Roedd y "ceginau te" neu'r "ffynhonnau te" hyn yn galluogi pobl i helpu eu hunain i'r te ar achlysuron llai ffurfiol fel brecwast. Roedd gan yr enghreifftiau mwyaf coeth yrnau ychwanegol ar gyfer coffi a dŵr poeth.

Dirywiad moesol a chorfforol

Roedd agweddau tuag at yfed te yn y ddeunawfed ganrif yn gymysg iawn. Cafodd yr obsesiwn o gasglu llestri te ei feirniadu gan sylwebwyr cymdeithasol, gyda menywod yn cael eu targedu amlaf. Yn ogystal, honwyd yn aml nad oedd te prynhawn yn ddim mwy na chyfle i fenywod hel clecs neu ymffrostio. Cyhoeddwyd cerdd ddychanol, The Tea-Table, gan 'Moses Oldfashion' yn Mist's Weekly Journal ym 1722:

M"...Chief Seat of Slander! Ever there we see
Thick scandal circulate with right Bohea.
There, source of black'ning Falshoods! Mint of Lies! Each Dame th'Improvements of her Talent tries,
And at each Sip a Lady's Honour dies".

Er y credwyd ar y cychwyn bod te yn llesol i iechyd mewn sawl ffordd, dechreuodd rhai sylwebwyr cymdeithasol boeni y gallai ei boblogrwydd arwain at ddirywiad corfforol. Ym 1753, aeth Mr Andree ati i ddisgrifio peryglon yfed gormod o de, gan nodi ei fod yn niweidiol iawn, yn gwaethygu epilepsi ac yn achosi pyliau gorffwyll. Aeth ymlaen i adrodd stori merch a oedd wedi bod yn bwyta te am rai wythnosau, gan achosi parlys ar ei hwyneb a chonfylsiynau (ffigur 10).

Yn ffodus, ni effeithiodd y gwrthwynebiadau hyn ar chwant pobl Prydain am de, ac mae wedi parhau'n rhan bwysig o'n bywydau bob dydd hyd heddiw. Er nad yw yfed te yn arfer mor ffurfiol heddiw ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, mae'n parhau i gael ei fwynhau a'i rannu gan filiynau o bobl bob dydd.

Awdur yr erthygl: Rachel Conroy: Cynorthwy-ydd Curadurol - Celfyddyd Gymhwysol

Cyfeiriadau

Andree, John. Cases of the epilepsy, Hysteric Fits, and St. Vitus's Dance, with the process of cure: interspersed with practical observations. To which are added, cases of the bite of a mad dog, and a method that has been found successful. The second edition, with emendations and additions in the introduction, and some new cases and Inspections of Dead Bodies (1753). Llundain: argraffwyd ar gyfer W. Meadows a J. Clarke, yn Cornhill. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO

Clifford, Helen. 'A commerce with things: the value of precious metalwork in early modern England', yn M. Berg a H. Clifford (gol.) (1999) Consumers and Luxury: Consumer Culture in Europe 1650-1850, tt. 147-169. Manceinion: Manchester University Press.

Oldfashion, Moses. 'The Tea-Table', yn (awdur anhysbys) A collection of miscellany letters, selected out of Mist's Weekly Journal (1722): 224-227. Llundain: argraffwyd ar gyfer N. Mist, yn Great Carter-Lane. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO

Wrn te gan Paul Storr, 1805-6.

Ffigur 9: Wrn te gan Paul Storr, 1805-6.

 

Jar neu dun te, Abertawe, 1783.

Ffigur 10: Jar neu dun te, Abertawe, 1783.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.