Cylch a bachyn a doli glwt

Teganau gwerin

Plant yn chwarae yng Nghaerdydd, tua 1892

Grwp o blant yn Sgwar Rowe, Caerdydd, tua 1892. Mae un yn dal cylch haearn a dau arall yn eistedd ar ferfa ben i waered.

Yng Nghymru ers talwm gwrthrychau syml o waith llaw a wnaed gartref oedd teganau. Fe’u lluniwyd o ba ddeunyddiau crai bynnag oedd yn digwydd bod ar gael yn lleol. Pren oedd prif ddeunydd teganau plant, gan ei fod yn rhwydd i’w saernïo yn wrthrychau o bob math – yn ddoliau, topiau troi a ratls i enwi dim ond tri. Roedd cylchoedd a bachau haearn a pheli troed a wnaed o bledrenni moch yn boblogaidd hefyd. Byddai’r rhain yn difyrru plant am oriau ac roeddent yn gyffredin yn y cartref ac ar fuarth yr ysgol. Roedd bod yn berchen ar bêl yn rhoi rhwydd hynt i chwarae llu o gemau tîm cyffrous fel rownderi, pêl law a phêl-droed, yn arbennig felly i fechgyn. Ar y llaw arall, byddai merched, hefyd, yn gyrru cylchoedd o bren neu haearn fel y mynnent, naill ai bob yn un, neu drwy gystadlu i weld pwy fyddai’n gallu eu rholio gyflymaf, arafaf neu bellaf.

Trysorau plant

Cwpan a'r bêl, y chwiban a'r ratl

Cyn dyfodiad cynnyrch ffatrioedd, byddai plant yn chwarae gyda theganau gwerin fel hyn. Mae'r cwpan a phêl, y chwiban a'r ratl a welir yma yn gopïau modern.

Mae'r term teganau gwerin yn disgrifio'r teganau hynny a wnaed naill ai gan y plentyn ei hun neu gan rieni neu grefftwyr yn unol â dymuniadau’r plentyn. Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond y teganau symlaf oll fyddai gan blant o deuluoedd tlawd, lle'r oedd yr arian at hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn brin. Serch hynny byddai’r rhain yn drysorau yn llygaid y plant ac yn fodd i ddianc am ychydig rhag cynni eu bywydau beunyddiol. Gan mai tlodi oedd realiti byw i lawer teulu yn y cyfnod hwn, rhaid oedd iddynt greu eu diddanwch a’u difyrrwch eu hunain, ac roedd plant yn llawn balchder haeddiannol am eu bod yn gallu gwneud eu teganau eu hunain o ddim.

Er enghraifft, y cyfan oedd ei angen i wneud barcud papur oedd ffrâm bren ysgafn ac ychydig o bapur, a byddai hyd yn oed y plant lleiaf yn gallu creu ceffyl pren o ddarn o bren a thipyn go lew o ddychymyg. I wneud si-so, yn aml byddid yn gosod dwy astell, y naill uwch ben y llall, dros gasgen. Byddai dau blentyn wedyn yn eistedd y naill ben a’r llall i’r estyll ac yn siglo i fyny ac i lawr yn fodlon nes iddynt flino ar y chwarae. Roedd modd defnyddio rhaffau i sgipio neu eu dringo trwy glymu un pen wrth gangen gref, gan adael y llall yn rhydd i’r plant glewaf ei dringo. I fechgyn, roedd creu eitemau fel barcutiaid papur, cychod tegan neu ffyn tafl yn rhoi teimlad o foddhad mawr, a gallai merched ddefnyddio eu doniau gwnïo i wneud doliau clwt a dodrefn ar gyfer tai doliau, neu chwarae siopau dillad trwy ddefnyddio tameidiau bychain o wahanol ddefnyddiau.

Teganau ffatri

Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd

Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, diwedd y 1950au

Hyd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, yn ddieithriad bron, dim ond pobl gefnog a fedrai fforddio prynu teganau. Ond wrth i ddulliau masgynhyrchu ddatblygu cynhyrchwyd teganau rhatach, gan drawsnewid y farchnad deganau yng Nghymru a mannau eraill. Agorodd llu o ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dyfu’n amlycach ac yn ehangach eu dylanwad, roeddent yn llwyddo i gyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Yn ganlyniad i hyn, collodd y rhan fwyaf o blant ddiddordeb yn y tegan gwerin syml. Rhoesant y gorau i wneud eu teganau eu hunain, gan gynilo eu ceiniogau yn lle hynny at brynu’r fersiynau lliwgar, addurniadol a mwy ffasiynol oedd i'w gweld yn y siopau. Heddiw mae teganau gwerin a wnaed gartref yn cael eu hystyried yn aml yn wrthrychau braidd yn hen ffasiwn a hynod. Serch hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o grefftwyr wedi troi eu llaw at wneud teganau, efallai yn ymateb i’r mynyddoedd o eitemau ffatri sy’n cael eu mewnforio i Brydain o dramor. Er gwaethaf y bri sydd o hyd ar deganau masnachol, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod i wrthrychau cartref apêl fwy hirhoedlog, oherwydd pwy allai wadu atyniad diniwed a digyfnewid eitemau fel pyped bys wedi ei weu neu ddoli beg wedi ei phaentio? Mae natur unigryw darnau a wnaed â llaw ac ôl y gofal a’r amynedd sydd wedi mynd i’w creu yn ddi-os yn dweud mwy wrthym am y gwneuthurwr nag y gallai gêm gyfrifiadur neu ddol Barbie a fasgynhyrchwyd ei wneud erioed.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.