Adnabod mwynau yn Amgueddfa Cymru

Amanda Valentine a Jana Horak

Peiriant diffreithio â phelydr ecs

Y peiriant diffreithio â phelydr ecs yn yr Adran Ddaeareg

Rhoi pelydr ecs drwy sampl o garreg o'r tarddiant hyd y synhwyrydd

Rhoi pelydr ecs drwy sampl o garreg o'r tarddiant hyd y synhwyrydd

Crisial cwarts

Crisial cwarts

Graffit

Graffit

Diamwnt

Diamwnt

Langit

Langit

wroewolfeit

Wroewolfeit

Un o weithgareddau'r Adran Ddaeareg yn Amgueddfa Cymru yw dogfennu pob mwyn hysbys yng Nghymru. Gellir adnabod mwynau drwy edrych arnynt ond i gadarnhau'n derfynol defnyddiwn broses a elwir yn ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs. Mae'r dechneg hon yn rhoi i ni ôl bys fel petai o fwynau naturiol ac o waith dyn ac mae modd ei gymharu â chronfa ddata o samplau hysbys.

Dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs

Mae'r rhan fwyaf o fwynau'n grisialaidd sy'n golygu eu bod wedi'u gwneud o fframwaith rheolaidd o atomau sy'n creu 'delltwaith crisialaidd' unigryw.

Pan aiff pelydrau ecs drwy fwyn mae'r atomau'n peri bod y pelydrau ecs yn cael eu diffreithio neu eu plygu i sawl gwahanol gyfeiriad. Gellir cofnodi patrwm y pelydrau ecs wedyn i gynhyrchu ôl bys. Nid oes gan unrhyw ddau fwyn yr un trefniant o atomau ac felly mae eu holion bysedd (neu batrymau diffreithio delltwaith) yn unigryw. Gellir defnyddio'r patrymau hyn felly i adnabod mwynau.

I ddadansoddi sampl fach o fwyn drwy ddefnyddio diffreithio â phelydr ecs mae'n cael ei falu'n bowdwr a'i pheledu â phelydrau ecs. Cofnodir y data fel graff o'r enw diffreithogram sy'n ffurf hwylus i weld y canlyniad.

I adnabod y mwyn cymherir y canlyniad â chronfa ddata o batrymau miloedd o fwynau hysbys.

Mwynau sy'n edrych yr un ffunud

Mae adnabod wrth weld yn bwysig o hyd am ei bod yn bosibl i ddau fwyn gwahanol feddu ar yr un cyfansoddiad cemegol ond i ymddangos yn wahanol iawn. Er enghraifft mae gan ddiamwnt a graffit (ill dau yn garbon pur) yr un cyfansoddiad cemegol ond maent yn amlwg yn wahanol nid o ran golwg yn unig ond hefyd o ran caledwch a ffurf grisial.

Ar y llaw arall mae wroewolfeit a langit yn ddau fwyn copor sydd yr un ffunud yn gemegol ac mae'r ddau ohonynt yn ffurfio nodwyddau glas. Fel canlyniad maent yn anodd iawn gwahaniaethu drwy edrych arnynt yn unig. Ond oherwydd bod ganddynt wahanol strwythurau crisialau maent yn cynhyrchu gwahanol batrymau diffreithio ac felly mae dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs yn ffordd gyflym a dibynadwy o wahaniaethu rhyngddynt.

Nid oes gan rai mwynau strwythur crisial rheolaidd ac felly ni chynhyrchant batrymau diffreithio. 'Mwynau amorffaidd' yw'r enw arnynt ac ni ellir eu hadnabod drwy ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs.

Defnyddio dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs

Mae'r dechneg yn cael ei defnyddio'n eang ym maes daeareg ac mewn ystod o ddisgyblaethau cysylltiedig. Er enghraifft fe'i defnyddir i adnabod mwynau mewn lliwiau arlunwyr a chyfansoddiad rhwd ar wrthrychau archeolegol. Gall cadwraethwyr wedyn benderfynu ar y driniaeth briodol i sbesimenau mewn amgueddfa.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.