Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru

Andrew Renton

Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri

1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904.

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr.

Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir.

Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu.

Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr.

O'r Canoloesol i'r diwydiannol

Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2]

Dyma rai o'r eitemau eithriadol:

  • dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3]
  • mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4]
  • dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5]

Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt.

Wilfred de Winton

Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach.

Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8]

Ernest Morton Nance

Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9]

Y casgliad yn parhau i ehangu

Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14]

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17]

Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18]

Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
16 Tachwedd 2016, 12:09

Hi there Andy,

Thanks for your enquiry. I'll pass it on to our curators, who will be in touch with you via email.

Best wishes,

Sara
Digital Team

Andy Craig
16 Tachwedd 2016, 12:01
Are you able to give me any more information on the Gestingthorpe Harvest Jug (more images, inscriptions, size etc). I am the Chairman of the Gestingthorpe History Group and we would be very interested to learn more.
Regards.