Adfer Gardd Rosod



Maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif ar gyrion Caerdydd yw Castell Sain Ffagan. Fe'i rhoddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Ym 1947, daeth Sain Ffagan yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac ers hynny datblygodd yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Un peth sy'n denu pobl yw gerddi hardd y castell, yn cynnwys gardd rosod hynod brydferth. Ar ôl cael ei hesgeuluso am flynyddoedd, aed ati i ailgynllunio'r Ardd Rosod a'i hadfer i'w hen ogoniant.
Cynllun 1899
Mae hen ffotograffau'n dangos gardd furiog, drionglog. Cychwynnwyd yr ardd hon ym 1899 yn dilyn cynllun a baratowyd gan y prif arddwr newydd, Hugh Pettigrew (1871–1947), a hyfforddwyd yng ngerddi Kew.
Rhestr o Rosod o 1904
Seiliwyd cynllun yr Ardd Rosod ar gyfres o gylchoedd ac roedd yn cynnwys dyfrffos, pergolas, delltwaith a llwybrau cysylltiol. Plannwyd 124 o wahanol fathau o rosod mewn 19 pâm blodau. Llwyddwyd i ail-greu cynllun gwreiddiol yr ardd o'r rhestr o rosod a luniwyd gan Pettigrew ym 1904.
Archaeoleg yr Ardd
Gyda'r gwaith adfer, daeth cyfle i wneud tipyn o archaeoleg arbrofol — darganfuwyd gwaith teils rhyw 18" (45cm) o dan y pridd lle bu'r ddyfrffos, yn dangos gwely gwreiddiol y gamlas.
Canfuwyd bod pedwar darn bychan o'r gamlas wreiddiol heb eu dinistrio gan eu bod yn gorwedd o dan y llwybrau tywyrch newydd a osodwyd ym 1950. Roedd digon o sylfeini waliau'r ddyfrffos ar ôl i gadarnhau bod teils cochion wedi bod arnynt hwythau ar un adeg hefyd.
Ailblannu'r Pamau Rhosod
Bu'n rhaid chwilio am gyflenwyr rhosod a chafwyd cryn drafferth i ddod o hyd i rai mathau o rosod. Roedd rhai o'r mathau y llwyddwyd i ddod o hyd iddynt yn dueddol o ddioddef ymosodiadau o lwydni a'r gawod goch. Fodd bynnag, dangosodd hyn pa anawsterau y byddai garddwyr yn eu hwynebu ar droad y ganrif ddiwethaf hefyd.
Yr Ardd Rhosod Heddiw.
Defnyddiodd yr adferiad gwreiddiol ym 1999 y mathau o rosyn a restrwyd gan Pettigrew. Roedd llawer o'r rhosod hynny a thueddiad at smotyn du, rhwd a llwydni, ac yn blodeuo am gyfnod byr yn unig. Ailblannwyd yr ardd yn 2017, gan ddefnyddio rhosod modern yn bennaf. Mae gan y rhain ymddangosiad ac arogl yr hen rosod, ond maen nhw'n llawer gwell yn gwrthsefyll afiechydon ac yn blodeuo am lawer hirach. Ychwanegwyd planhigion lluosflwydd i gynyddu bioamrywiaeth yr ardd, sy'n helpu i reoli'r llyslau. Gobeithiwn ein bod wedi talu teyrnged i harddwch yr Ardd Rhosod gwreiddiol.
sylw - (4)
Dear Joyce Hunt,
Thank you very much for your enquiry. I have passed your message on to my colleague who works within the Social and Cultural History department, we will be in touch to advise further.
Kind regards,
Nia
(Digital team)
We have 2 blurred photos of the garden and no original roses
I have started researching Ralph’s plantsman ,Esme Bradburne and would like to find her designs ,as she planted formhim at the Ideal Home exhibition and Chelsea Flower Show
Please could you give some advise about finding original roses and rose bed designs at that time
I have visited many gardens but Ralph wasn’t influenced by Gertrude Jeckyll and the Arts and Crafts movement
His blurred design shows more abstract ,random shapes as opposed to the more formal,symmetrical cruciform quadrant shapes
I look forward to your reply Joyce Hunt
Thank you very much for your enquiry. I have brought it to the attention of our Senior Garden Conservator and will let you know of her response.
Best wishes,
Marc
Digital Team
Thank you.
R McLeod