Llyfrgell Amgueddfa Cymru

Sefydlwyd llyfrgell Amgueddfa Cymru flynyddoedd lawer cyn i brif adeilad yr Amguedda yng Nghaerdydd gael ei agor yn ffurfiol ym 1927.

Y llyfrgell yn Amgueddfa Cymru

Y llyfrgell yn Amgueddfa Cymru

Miss E.M. Breese, catalogydd o Brifysgol Cymru gerllaw, oedd y Llyfrgellydd cyntaf. Er mai ym 1913 y cyrhaeddodd Miss Breese, dechreuwyd derbynodi llyfrau ym 1909.

Dechreuadau casgliad

Yr eitem gyntaf i gael ei derbynodi oedd copi o lawlyfr John Ward o bethau o gaer Rufeinig Gelligaer (yn nes ymlaen, daeth John Ward, Curadur amgueddfa Caerdydd, yn Geidwad Archeoleg Amgueddfa Cymru).

Ymhlith y llyfrau cyntaf a brynwyd ym 1909/10, roedd y Yearbook to learned and scientific societies, llyfr Esther Crawford, Cataloguing: suggestions for the small public library ac arweinlyfr i Dŷ'r Cyffredin.

Ym mhrif Lyfrgell yr Amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir ystafell ganolog ag ynddi silffoedd a lle ar gyfer staff a darllenwyr a dwy adain o raciau symudol trwm o'r 1920au, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.

Daw'r unig enghraifft arall y gwyddom amdani o raciau fel hyn, yn crogi o drawstiau haearn, o hen staciau llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig.

Yr Amgueddfa'n ehangu

Wrth i'r Llyfrgell fynd yn rhy fawr i'r lleoliad gwreiddiol, cafodd llyfrgelloedd adrannol eu creu. Yn ogystal â'r llyfrgelloedd a geir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir casgliad sylweddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Erbyn hyn, mae'r llyfrgell sy'n ymdrin â hanes diwydiant ac archeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym Abertawe a cheir casgliadau bychain yn Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Caiff y tair llyfrgell eu gweinyddu o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Casgliadau pwysig ac arwyddocaol

Mae'r Llyfrgell wedi cael nifer o roddion pwysig. Y rhodd bwysicaf oedd llyfrgell Tomlin o lyfrau o'r 17eg ganrif ymlaen ar Folysgiaid. Mae'n cynnwys sawl cyfrol o'r ysgythriadau astudiaethau natur gorau erioed a liwiwyd â llaw.

Ym 1953, cyrhaeddodd casgliad Willoughby Gardner, gyda nifer o lyfrau argraffedig cynnar ar y gwyddorau naturiol, yn cynnwys llysieulyfr a'r unig ddau incwnabwlwm (llyfrau a gyhoeddwyd cyn 1501) — sef dau argraffiad o ysgrifau Pliny ar astudiaethau natur o 1481 a 1487.

Yn ogystal â staff yr Amgueddfa, mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio'r Brif Lyfrgell ac mae'r cyhoedd yn gallu trefnu ymlaen llaw i'w ddefnyddio.

Casgliadau arbennig

Yn ogystal â llyfrau am waith cyffredinol amgueddfeydd a chadwraeth, ceir nifer o gasgliadau arbennig yn y Brif Lyfrgell yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Er enghraifft, ceir yno gasgliad da o lyfrau am dopograffeg Cymru — llyfrau taith o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg yn bennaf, a rhai llawysgrifau.

Ar fenthyg i'r llyfrgell, mae set o gopïau Gwendoline Davies ei hunan o lyfrau yr hen Wasg Gregynog mewn rhwymiadau arbennig. Bu'r Llyfrgell yn prynu enghreifftiau o lyfrau o weisg preifat eraill o'r un cyfnod â rhai yr hen Wasg Gregynog, yn ogystal â gweisg preifat modern yng Nghymru fel Old Stile Press a Red Hen Press.

Mae'r Llyfrgell dal yn casglu heddiw.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.