Gwestai a thafarndai Cymru yn y 18fed ganrif

Croeso cynnes Cymreig

Golygfa o Langollen o Cambria Depicta gan Pugh

Golygfa o Langollen o Cambria Depicta gan Pugh — tref lle'r arweiniodd datblygiad y diwydiant ymwelwyr at welliannau mewn gwestai fel The Hand.

Mae adroddiadau Saeson da eu byd am eu teithiau yng Nghymru tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif wedi bod yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr i rai sy'n astudio hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar. Gall y disgrifiadau o drefi, henebion, gwisgoedd, arferion, diwydiannau a dulliau cyfathrebu yn y gwahanol ardaloedd fod o gymorth mawr. Mae sylwadau'r teithwyr am y gwestai a'r tafarndai y buont ynddynt hefyd yn llawn manylion diddorol.

Cyhoeddodd J. T. Barber ei adroddiad am ei daith ef a'i gyfaill trwy dde Cymru ym 1803. Ymhlith y tafarndai y buont yn aros ynddynt oedd y Green Dragon yng Nghaerfyrddin a'r Bridgewater Arms ym Mhontypridd, y ddau le'n cael eu disgrifio fel rhai cysurus, a'r Red Lion yn Llanrhy¬stud a oedd yn 'tolerably decent ale¬house'.

Fodd bynnag, nid oedd gan Barber a'i gydymaith atgofion melus o bob tafarn y buont ynddynt. Ar ôl bod ar goll a chyrraedd Caeriw, doedd dim llety cysurus na stabl ar gyfer y ceffylau yn y dafarn gyntaf y daethant iddi. Doedd dim o gwbl yn yr ail dafarn ac felly dychwelodd y teithwyr i'r dafarn gyntaf, gan fod yno wely, o leiaf.

'Cwrw i godi cyfog'

Roedd y tu mewn yn ddi-raen, roedd y tafarnwr a'i wraig yn edrych fel pe bai pwysau'r byd ar eu hysgwyddau a'r cyfan a gawsant i'w fwyta oedd bara barlys caled a menyn hallt, gyda 'chwrw oedd yn codi cyfog arnoch'. Sach o wellt oedd y gwely mewn cornel o ystafell lle'r oedd dau o blant y tafarnwr yn cysgu hefyd. Roedd y dillad gwely'n llaith iawn a chanfu'r teithwyr blinedig eu bod yn rhannu'r ystafell â haid o chwain a llygod ffyrnig hefyd.

Roedd rhai gwestai ardderchog ar brif lwybrau'r ymwelwyr o Loegr, yn enwedig yr un ym Mhîl a godwyd gan deulu Talbot, Margam. Ym marn Barber, byddai modd camgymryd y gwesty hwn am blasty a dywedodd fod yno wasanaeth da i ymwelwyr. Mae Henry Skrine yn sôn am y gwesty hwn ym Mhîl yn ei adroddiad ef am ei deithiau yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym 1798. Dywed bod y lle'n debycach i balas nag i dafarn.

Y Gogledd

Yn adroddiad y Parchedig W. Bingley am ei daith yn y gogledd ym 1798, mae'n sôn am westy yng Nghaernarfon a godwyd gan Iarll Uxbridge. Dywed bod y gwesty'n cynnig golygfeydd da a llety ardderchog ac mai ychydig o westai yn Lloegr a allai gystadlu ag ef.

Mae arweinlyfr i'r ardal a gyhoeddwyd ym 1827 yn cadarnhau bod yr Uxbridge Arms yn 'large, handsome, and commodious', a'i fod yn diwallu holl anghenion teithwyr am gost resymol. Dywed Bingley hefyd bod yr Eagles Inn yn Llanrwst yn lle cysurus ac mai hwn oedd yr unig fan lle cedwid hurfeirch neu geffylau post. Anfantais y gwesty hwn oedd ei fod yn rhy boblogaidd yn yr haf pan oedd yno ormod o bobl ac awyrgylch annifyr.

Gwelir bod y prif westai a thafarndai ar lwybrau'r ymwelwyr trwy Gymru, yn enwedig y ffyrdd a ddefnyddiai pobl ar eu ffordd i Iwerddon, wedi dod trwy ddymuniad neu orfod yn llefydd addas i aros ynddynt. Er enghraifft, ym marn Bingley roedd The Hand yn Llangollen yn dderbyniol ond yn rhy llawn ac roedd y tafarnwr yn annymunol. Pan aeth y Parchedig G.J. Freeman ar daith yn y 1820au, sylwodd fod The Hand wedi newid yn fawr ers iddo ymweld â Llangollen gyntaf, flwyddyn cyn ymweliad Bingley.

Roedd yr eithriadau, fel y dafarn yng Nghaeriw, mewn llefydd na fyddai disgwyl i ymwelwyr aros ynddynt; er enghraifft, byddai digon o westai derbyniol yn nhref Dinbych-y-pysgod. Fodd bynnag, weithiau, roedd ymwelwyr yn siomedig â'u llety.

Gwestai budron

Daeth E. D. Clarke ar ymweliad â Hwlffordd ym 1791 a dywedodd na theimlodd erioed mor awyddus i adael rhywle, yn enwedig gan fod y gwesty mor frwnt.

Dywedodd fod ei ystafell fel twlc mochyn. Roedd y dillad gwely yn llaith a, gan nad oedd y gwely wedi'i newid ar ôl yr ymwelwyr cynt, roedd yn llawn tywod o draed pobl! Roedd gwaeth i ddod oherwydd, yn y bore, roedd pedwar ceffyl wedi'u rhoi i dynnu cerbyd Clarke yn hytrach na dau yn unol â'i gais. Doedd ganddo ddim dewis ond cymryd y pedwar — 'Roedd unrhyw ffwdan yn well nag aros gyda Pharo a'i lu'.

Nid Clarke oedd yr unig un i gael profiad annifyr o Hwlffordd. Mae gan Henry Penruddocke Wyndham hanes tebyg yn ei adroddiad am ei deithiau yn y 1770au.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.