Y Chwiorydd Davies a’r Rhyfel Mawr

Ffotograff du a gwyn o gyffordd stryd mewn dinas yn Ffrainc, â’r adeilad ar un cornel yn adfail

Ymwelloedd Gwendoline â'r ddinas Ffrainc Verdun oedd wedi'i difrodi a bron yn wag ar 9 a 10 Mawrth 1917, ac fe gafodd y cerdyn post hwn i gofio ei hymweliad. Casgliad preifat (Lord Davies)

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar fywydau Gwendoline a Margaret Davies. Y ddwy chwaer o'r canolbarth a drawsnewidiodd amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru gyda'u rhoddion a'u cymynroddion.

Lladdwyd rhai o'u perthnasau agos a bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, gan weld dinistr trychinebus yno gyda'u llygaid eu hunain. Roeddynt yn ymwybodol iawn o ddioddefaint milwyr Prydain a Ffrainc, a chawsant eu synnu gan ddioddefaint y ffoaduriaid sifil.

Ymroddodd eu brawd David yn llwyr i ymgyrchu dros heddwch rhyngwladol, ond gobaith y chwiorydd oedd gwella bywydau'r cyn-filwyr oedd yn dioddef trawma yn sgil y rhyfel, drwy eu haddysgu yn y crefftau a thrwy gerddoriaeth. Allan o hyn datblygodd y syniad o sefydlu Gregynog fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, ac i drafod problemau cymdeithasol.

Rhoi Lloches i Artistiaid yng Nghymru

Ar 4 Awst 1914, ymosododd yr Almaen ar wlad Belg, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu'n rhaid i dros filiwn o drigolion gwlad Belg ffoi o'u cartrefi.

Penderfynodd y teulu Davies y dylid dod ag artistiaid o wlad Belg i Gymru, lle gallent weithio'n ddiogel, ac ysbrydoli myfyrwyr celf y wlad. Teithiodd yr Uwchgapten Burdon-Evans, eu hasiant, a'u cyfaill Thomas Jones i wlad Belg lle sefydlwyd grŵp o nawdeg un o ffoaduriaid, oedd yn cynnwys y cerflunydd George Minne, yr arlunwyr Valerius de Saedeleer a Gustave van de Woestyne a'u teuluoedd.

Treuliodd y tri artist weddill y rhyfel fel ffoaduriaid, gan ddibynnu'n helaeth ar gymorth y teulu Davies. Er mai effaith gyfyngedig gawsant ar y celfyddydau yng Nghymru, effeithiodd eu halltudiaeth yng Nghymru ar waith y tri.

Y Chwiorydd yn Ffrainc, 1916–18

Ar y cychwyn, bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel gartref. Roeddent yn awyddus i wneud 'mwy i helpu', ond ni lwyddodd llawer o fenywod fynd i Ffrainc. Un ffordd o wneud hyn oedd gwirfoddoli trwy Bwyllgor y Groes Goch Ffrengig yn Llundain.

Ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn y fyddin Ffrengig ar gyfer lles y milwr cyffredin, ac anfonodd y Pwyllgor fenywod i weithredu cabanau bwyd, ysbytai a gwersylloedd tramwy.

Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes. Ymunodd Margaret â'r caban bwyd yno ym Mehefin 1917, ac mae eu dyddiaduron yn rhoi cofnod o'r cyfnod hwn yn eu bywydau.

Cafodd stoiciaeth y milwyr Ffrengig cyffredin, a dioddefaint y ffoaduriaid lluddedig, sâl a llwglyd effaith ddofn ar y chwiorydd.

Casglu yn ystod y Rhyfel

Llwyddodd y chwiorydd i ychwanegu at eu casgliad celf yn achlysurol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod teithio yn Ffrainc adeg y rhyfel yn anodd, cafodd Gwendoline gyfleoedd i ymweld ag oriel Bernheim-Jeune yn sgil teithiau i Baris ar ran y Groes Goch.

Prynodd luniau o waith Daumier a Carrière yno yn Ebrill 1917, a pheintiadau gan Renoir, Manet a Monet yn Rhagfyr. Yn Chwefror 1918 prynodd y tirluniau enwog gan Cézanne, Argae François Zola a Thirwedd ym Mhrofens, sydd ymysg y pwysicaf a'r mwyaf ysbrydoledig o'i phryniadau.

Yn Chwefror 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun gan Augustus John. Aeth Margaret a hithau ati i gasglu mwy, ac ni chasglwyd gwaith unrhyw artist arall ar yr un raddfa ganddynt.

Roedd hi'n benderfynol y dylid arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ddiweddarach rhoddodd nifer o'i weithiau ar fenthyg i'r Amgueddfa.

Nodiadau ar y Lluniau

Paul Cézanne (1839-1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887-8.
Paul Cézanne

(1839–1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887–8

Prynodd Gwendoline y llun yma'r un pryd â Argae François Zola o waith yr artist ym 1918, ond am hanner pris y gwaith arall, £1,250. Fe'i peintiwyd yn fwy na thebyg o gartref y teulu ger Aix-en-Provence. Mae'n tywynnu â lliwiau De Ffrainc lle'r oedd y chwiorydd wedi treulio'u gwyliau ym 1913-14. Roedd hi'n fyd hollol wahanol i amodau gaeafol Paris dan lach y rhyfel.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2438.

Paul Cézanne (1839-1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879
Paul Cézanne

(1839–1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879

Dyma un o'r lluniau pwysicaf a brynodd Gwendoline. Fe'i prynodd ym Mharis yn Chwefror 1918 am £2,500. Roedd caban bwyd Troyes ar gau ar y pryd yn ystod gwaith trwsio. Treuliodd y cyfnod yn y ddinas, wedyn ar fusnes y Groes Goch yn sgil bomio ysbeidiol yr Almaenwyr. Mae'n bosibl iddi weld y gwaith ar ymweliad cynharach am fod Margaret wedi cyfieithu stori'r masnachwr Ambroise Vollard am hanes bywyd Cézanne o'r Ffrangeg ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Ynghyd â Thirlun ym Mhrofens a brynodd yr un pryd, dyma un o'r lluniau cyntaf o waith Cézanne i ddod i gasgliad ym Mhrydain.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2439.

Camille Pissarro (1831-1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898.
Camille Pissarro

(1831–1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898

Prynodd Margaret sawl darn o waith Pissarro yn Orielau Leicester, Llundain, ym Mehefin 1920. Hwn oedd y drutaf a thalodd £550 amdano. Y flwyddyn flaenorol roedd hi wedi gweithio yn un o gabanau bwyd Pwyllgor Cabanau Eglwysi'r Alban yn Rouen.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Margaret Davies, 1963) NMW A 2492.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.