Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru

Beddrodau megalithig

Pentre Ifan

Pentre Ifan (Sir Benfro), un o'r beddrodau megalithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd ynghladd dan dwmpath o dywyrch a cherrig.

Yng Nghymru ceir un o'r casgliadau gorau o feddrodau megalithig yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â bod yn weledol ddramatig, mae'r henebion hyn yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am fywyd a marwolaeth 5,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o henebion. Fil o flynyddoedd yn ôl, cestyll oedd y nodweddion mwyaf trawiadol; fil o flynyddoedd cyn hynny caerau Rhufeinig oedd amlycaf, a chyn hynny, bryngaerau'r Oes Haearn. Ond yr henebion cynharaf i oroesi hyd heddiw yw beddrodau megalithig - siambrau claddu cerrig sy'n dal i greu ymdeimlad o'r gorffennol pell.

Cafodd beddrodau megalithig eu hadeiladu bron 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan oedd trigolion Cymru yn byw mewn cymunedau bach, yn defnyddio offer cerrig ac yn rhoi prawf ar ddulliau hollol newydd o ffermio'r tir a chadw da byw. Heddiw, mae'r fath fywyd yn swnio'n syml ac yn ansoffistigedig o'i gymharu â'n ffordd ni o fyw. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth y beddrodau megalithig nad oedd bywyd pawb yn syml yn ystod y cyfnod hwn.

At ei gilydd, mae beddrodau megalithig Cymru ar ffurf siambrau cerrig sy'n cynnwys maen capan mawr yn gorwedd ar ben nifer o feini unionsyth. Yn wreiddiol, byddai'r rhain wedi'u gorchuddio dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yn fynych, roedd i bob siambr flaengwrt lle arferid cynnal seremonïau.

Maint y megalithau yw eu nodwedd amlycaf. I greu siambr Maen Ceti ym Mro Gŵyr bu'n rhaid codi un maen dros 4m (14tr) o hyd a 2m (7ft) o drwch. Mae maen capan enfawr Tinkinswood (Bro Morgannwg) yn pwyso 36 tunnell fetrig.

Gartref i gyndadau'r gymuned

Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl

Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl, yn seiliedig ar gloddiadau ar safle Clegyr Boia (Sir Benfro). Canolbwyntiai arferion dyddiol y rhan fwyaf o'r bobl ar dyfu cnydau, hel planhigion gwyllt a bugeilio defaid a gwartheg.

Mae'r ffaith yr aeth pobl Oes y Cerrig i'r fath drafferth i adeiladu eu beddrodau yn arwydd o'u pwysigrwydd i gymunedau'r cyfnod hwn.

Yn orffenedig, gweithredai'r beddrod fel crypt yr oes hon a châi'r siambr ei lenwi'n raddol â chyrff y meirw gyda threiglad y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, roedd y siambr yn gartref i gyndadau'r gymuned.

Ambell un heb ei ddarganfod?

Dyffryn Ardudwy

Darlun o Ddyffryn Ardudwy (Gwynedd), gan David Gunning. Adeiladwyd y cofadail hwn fesul cam; y rhan gyntaf a godwyd oedd y siambr ar y chwith.

Ceir beddrodau tebyg i'r rhain mewn sawl rhan o Gymru. Yn ne-ddwyrain y wlad mae grŵp pwysig ohonynt i'w gael yng nghyffiniau'r Mynyddoedd Duon yn ogystal ag enghreifftiau eraill ym Mro Morgannwg. Yn ne-orllewin Cymru ceir clystyrau ohonynt yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ond ceir y beddrodau mwyaf trawiadol ym Môn, ardal sy'n nodedig am eu niferoedd a'u hamrywiaeth.

Y beddrodau hyn yw'r ychydig sydd wedi goroesi'r gwaith o glirio'r tir i ateb gofynion byd amaeth, a'r ysbeilio a fu er sicrhau cyflenwadau o gerrig adeiladu - yn ddiau, roedd mwy o lawer yng Nghymru ar un adeg ac mae'n bosibl fod ambell un heb ei ddarganfod.

Darllen Cefndir

Maen Ceti

Maen Ceti, ar Benrhyn Gŵyr. Roedd gosod maen capan enfawr y siambr hon ar ben nifer o feini unionsyth llai yn un o gampau peirianyddol mawr Oes y Cerrig.

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

Megalithic tombs and long barrows in Britain gan F. Lynch. Shire Publications (1997).
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.