Crochenwaith Ffrengig yng Nghymru'r Oesoedd Canol

Jwg Saintonge

Jwg Saintonge o gastell Cydweli, Sir Gaerfyrddin.

Llestr wedi'i addurno'n gywrain a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd. 23.8cm (9.5 modfedd) o uchder.

Llestr wedi'i addurno'n gywrain a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd. 23.8cm (9.5 modfedd) o uchder.

Jwg y cafwyd hyd iddi mewn ffynnon yng Nghastell-y-Bere, Gwynedd. 20.5cm (8.1 modfedd) o uchder.

Jwg y cafwyd hyd iddi mewn ffynnon yng Nghastell-y-Bere, Gwynedd. 20.5cm (8.1 modfedd) o uchder.

Mae ffurfiau ac addurn cywrain yn nodweddion arbennig o grochenwaith a fewnforiwyd o dde-orllewin Ffrainc yn dilyn yn ôl byddinoedd Edward I. Diolch i'r gofal a gymerwyd wrth adfer llestri toredig, gallwn fwynhau'r llestri bwrdd hardd hyn heddiw.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd sawl ardal yn Ffrainc yn allforio crochenwaith i Brydain, yn enwedig gogledd Ffrainc, Normandi a'r Ardennes. Ond daeth y rhan fwyaf o'r crochenwaith Ffrengig y cafwyd hyd iddo yng Nghymru o gyffiniau Saintonge yn ne-orllewin Ffrainc.

Gwnaed y llestri o'r ardal hon o glai mân oedd yn addas iawn ar gyfer llunio'r ffurfiau ysgafn a thenau eu muriau, megis y rhai a welir yma. Gan mai dim ond ychydig o haearn oedd yn y clai, roedd yn cynhyrchu llestr ac iddo ffabrig gwyn neu lwydfelyn wedi iddo gael ei danio.

Dechreuwyd allforio'r crochenwaith o ardal Saintonge i Brydain yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, masnach a barhaodd am ryw bum can mlynedd. Ar ddechrau'r cyfnod hwn, y Saeson oedd yn llywodraethu Wasgwyn, yr ardal gyfagos, a chafodd llawer o'r llestri y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru eu hallforio i Brydain drwy borthladdoedd La Rochelle a Bordeaux, yn ôl pob tebyg. Roedd y llestri yn rhan o lwythi cymysg, er mai gwinoedd o Wasgwyn ac Aquitaine oedd y nwyddau pwysicaf.

Cafwyd hyd i'r enghraifft gyntaf a bortreadir yma mewn tomen sbwriel yng nghastell Cydweli (Sir Gaerfyrddin) yn ystod cloddiadau yn y 1930au. Mae'r jwg wedi'i haddurno â motiff sgrôl winwydd nodweddiadol o jygiau Saintonge, ac mae'n debyg y cafodd ei thaflu i ffwrdd ynghyd â nifer o lestri mwy plaen eu gwedd. Yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd rhwng 1275 a 1320 ac felly mae'n dyddio o'r cyfnod wedi buddugoliaeth Edward I. Dengys y llestr hwn, sydd wedi'i addurno'n gywrain, fedrusrwydd arbennig crochenwyr Saintonge. Mae'n 25cm (9.8 modfedd) o uchder a mewn mannau dim ond 2.4mm (0.1 modfedd) yw trwch ei furiau.

Yn ystod y blynyddoedd hyn daeth castell Cydweli, a arferai fod yn eiddo i deulu de Chaworth (teulu a fu'n gyfrifol am wella ei amddiffynfeydd yn sylweddol), i berchnogaeth William de Valence wedyn i Dŷ Lancaster. Aeth y perchnogion mwy diweddar hyn ati i wella ystafelloedd y castell. Mae'n bosibl mai o'r jwg hon yr arllwyswyd gwydraid o win yn y Neuadd Fawr ar gyfer un o'r perchnogion Seisnig hyn, er ei bod yn bosibl y defnyddid jygiau o'r fath yma i ddal dŵr hefyd.

Gwyddys am grochenwaith Saintonge a ddaw o safleoedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys enghreifftiau gwych o Gaerdydd a Chastell-y-Bere yng Ngwynedd. At ei gilydd, cafwyd hyd i'r crochenwaith ar safleoedd arfordirol - llefydd a allai fod wedi cael eu rheoli'n rhwyddach gan y Saeson, neu lefydd cymharol hawdd i'w cyrraedd gan fasnachwyr y goresgynwyr - er bod enghreifftiau ohono wedi dod i'r golwg weithiau ar safleoedd ucheldirol anghysbell.

  • Jwg Caerdydd: Cafwyd hyd i'r jwg hon yn ystod gwaith a wnaed yn Stryd Fawr Caerdydd yn 1893. Mae ei haddurn yn cynnwys adar, mygydau ac arfbeisiau ac maent oll yn nodweddion cyffredin ar lestri o grochendai Saintonge.
  • Jwg Castell-y-Bere: Bu Castell-y-Bere ym meddiant y Saeson rhwng 1284 a 1294 yn unig. O ystyried pa mor aml y deuir o hyd i grochenwaith Saintonge mewn cestyll eraill a feddiannwyd gan y Saeson yng Nghymru, mae'r jwg, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o'r cyfnod hwn.

Er ei bod hi'n bosibl na chafodd y fath botiau eu gwerthfawrogi'n fawr gan eu perchnogion, o'u cymharu â llestri a wnaed o arian, efydd neu bres, maent yn enghreifftiau o grefftwaith arbennig ac yn tystio i'r cysylltiadau a fu rhwng Cymru a'r byd Ewropeaidd ehangach yn ystod yr Oesoedd Canol.

Darllen Cefndir

'Kidwelly Castle, Carmarthenshire; including a survey of the polychrome pottery found there and elsewhere in Britain' gan C. Fox a C. A. R. Radford. Yn Archaeologia, cyf. 83, tt93-138 (1933).

'Medieval finds from Castell-y-Bere, Merioneth' gan L. A. S. Butler. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 123, tt78-112 (1974).

Medieval pottery and metal-ware in Wales gan J. M. Lewis. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1978).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.