Datrys dirgelwch llofruddiaeth 1,000 oed

Excavating the enclosure ditch and skeletons at Llanbedrgoch (Anglesey).

Cloddio'r ffos amgâu a'r sgerbydau yn Llanbedr-goch (Ynys Môn). Ar ochr chwith y llun mae cyrsiau is mur amddiffynnol yr anheddiad. Gellir gweld dau o'r sgerbydau yn gorwedd ar lefelau uwch y ffos oedd y tu allan i'r mur.

Penglog claddedigaeth 5.

Penglog claddedigaeth 5. Roedd y benglog mewn darnau pan cafwyd hyd iddi a gwnaed gwaith i'w hailadeiladu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion.

Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu.

Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion.

Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres.

Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres.

Ym 1998-9, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ac anodd i'w ddehongli yn anheddiad canoloesol cynnar Llanbedr-goch. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur oedd yn amddiffyn yr anheddiad.

Pam fod hyn yn Ddirgelwch?

  • Claddwyd yn ddiseremoni mewn beddi bas.
  • Yn groes i'r arfer Gristnogol, roedd yr holl sgerbydau wedi eu gosod â'u pennau naill ai tua'r gogledd neu'r de yn hytrach na'r dwyrain
  • Taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 — 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog
  • Roedd blociau calchfaen a rwbel llai ar dri o'r cyrff, sy'n awgrymu cwymp y wal
  • Ymosodiad Llychlynnaidd

    Mae'r gwaith a wnaed i ddyddio'r sgerbydau yn awgrymu eu bod yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd.

    Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref.

    Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal.

    Perthynas Genetig

    Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg:

    • holltau llygaid llorweddol
    • safnau sgwâr
    • clustiau adlynol (heb labedau)

    Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng).

    Mae'r gwaith yn parhau i astudio'r data a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio, wrth i ni geisio ail-greu'r anheddiad yr oedd perchnogion y sgerbydau hyn yn gyfarwydd ag ef. Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno.

    Darllen Cefndir

    Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol gan Mark Redknap. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2000).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.