Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar

Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow.

G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40.

Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725.

Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu.

Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau.

Parti brenhinol cyntaf

Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg.

Corsedau o asgwrn morfil

Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur.

Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar.

Darllen Cefndir

M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54.

Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52.

Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.