Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Mr Hugh Richard Jones
Mr Hugh Richard Jones
Rhai o weithwyr Gilfach Ddu, 1896.
Rhai o weithwyr Gilfach Ddu, 1896.

Amgueddfa Llechi Genedlaethol: Ffenestr i'r gorffennol

Ym 1999 bu Amgueddfa Cymru'n cyfweld tri chyn-grefftwr o weithdai chwarel lechi Gilfach Ddu. Mae'r gweithdai yma bellach yn gartref i'r Amgueddfa Lechi Cymru. Mae gan yr Amgueddfa archif gyfoethog ar fywydau'r chwarelwyr, ond mae hanesion y crefftwyr a oedd yn saernïo ac yn gweithio'r llechi o'r chwarel yn ffenestr ddiddorol i'r gorffennol hefyd.

Hugh Richards Jones

Ganed Hugh ym Methel, ger Caernarfon, ym 1911. Daeth i'r "Iard", fel y gelwir y gweithdai'n lleol, fel prentis gosodwr ym 1926:

"Gilfach Ddu oedd calon Dinorwig. Roedd 3,700 [o ddynion] yn gweithio yn y chwarel pan ddechreuais i yno. Felly roedd angen calon go fawr i gyflenwi popeth ar gyfer y lle...Dechreuais i ym 1926, ac wrth i mi fynd drwy'r porth fe welais y cloc uwchben y porth, chi'n gwybod. Es i drwodd, a phwy oedd yn disgwyl amdana i yng nghyntedd y swyddfa, ond y peiriannydd - y prif beiriannydd. Roedd fy nhad gyda fi, ac fe ddywedodd 'mod i am ddechrau gweithio yno. 'Wel os wyt ti'n dod yma 'machgen i' meddai, 'bydd rhaid i ti dorchi dy lewys!'

Y dyddiau hynny, roedd yn rhaid i fechgyn ifanc dalu am y fraint o ddysgu crefft:

"Doedden ni ddim yn cael ceiniog. Dim arian o gwbl am yr hanner-blwyddyn cyntaf. Yna, y dyddiau hynny, byddem yn cael chwe cheiniog y dydd am yr ail hanner-blwyddyn. Ar ddiwedd y flwyddyn roedden ni'n cael codiad blwyddyn - fesul dydd. Ac felly oedd pethau nes i chi orffen eich prentisiaeth. Yn aml, os nad oeddech yn medru gwneud eich gwaith yn iawn neu os nad oeddech yn gydwybodol, ni fyddech yn derbyn cyflog llawn chwaith. Y prif beiriannydd oedd yn penderfynu, mewn gwirionedd, ac yn dweud wrthych chi, 'Wel, rwyt ti'n haeddu ychydig o gyflog. Dwi'n mynd i roi cyflog llawn i ti.'...Dyna sut oedd pethau'r dyddiau hynny.

Yn ddiweddarach, Hugh Richard Jones oedd prif beiriannydd y chwarel, ac ar ôl iddi gau ym 1969 cyflogwyd ef gan yr Amgueddfa Genedlaethol fel rheolwr cyntaf Amgueddfa Lechi Cymru.

Gwilym Davies

Ganed Gwilym ym mhentref Dinorwig ym 1920, a daeth i'r iard fel prentis saer ym 1936. Cafodd blentyndod anodd, gan y bu farw ei dad mewn damwain yn y chwarel pan oedd Gwilym yn ifanc iawn:

"Roedd 'nhad yn dod o Ddeiniolen. Roedd o'n anlwcus - lladdwyd ef yn un o'r cloddfeydd yn y chwarel ym 1923, pan oeddwn i ond dyflwydd a hanner. Cafodd ei wasgu i farwolaeth yn ystod y nos... roedd o'n pwmpio dŵr o waelod y gloddfa, ac fe gafodd ei wasgu i farwolaeth. Digwyddodd y ddamwain cyn dyddiau'r Ddeddf Iawndal, felly'r Chwarel fyddai'n penderfynnu faint o arian i'w roi. £250 oedd y swm, y dyddiau hynny, i fagu'r tri ohonom ni. Ond roedd Mam yn cymryd gwaith golchi ac ati - byddai'n mynd allan i sgwrio Capel Mawr yn Dinorwig, am 50c chi'n gweld."

Mae'n cofio cael ei anfon gan ei fam i ofyn i'r plwyf am gymorth ariannol i gynnal y teulu:

"Y plwyf oedd beth fyddech chi'n ei alw'n Nawdd Cymdeithasol heddiw. Es i ar ran Mam i ofyn am help i fyw. Cefais ganiatâd Mr Williams yr ysgolfeistr i redeg o'r ysgol gynradd ar brynhawn dydd Mercher, yr holl ffordd i Swyddfa'r Post yn Llanddeiniolen. Dim ond chwarter awr o amser chwarae oedd yn y prynhawn. Rhedais yr holl ffordd i lawr yno a gofyn i Mr Williams o Fethel, 'Ma Mam yn gofyn, os gwelwch yn dda, os caiff hi ychydig o help i fyw.' 'Does dim byd gen i ar eich cyfer chi!' oedd yr ateb. Rhedais bob cam o'r ffordd yn ôl. Doedd hynny ddim yn broblem. Medrwn redeg yn ddigon cyflym bryd hynny. Mynd adref a dweud wrth mam nad oedd unrhyw beth ar gael - dyna oedd yn brifo."

Pan oedd yn 16, bu Gwilym Davies yn ddigon ffodus i gael ei dderbyn fel prentis saer yn Gilfach Ddu. Bu'n rhaid iddo brynu'r holl ddillad a'r offer cywir ar gyfer y swydd:

"Codais yn gynnar iawn. Oferôls newydd a phopeth. Oferôls a siaced wedi'u gwneud o ddefnydd fel denim, ac roedd fy mrawd hynaf wedi prynu llif i mi o siop Gruffydd Jones yng Nghaernarfon. Llif Henry Diston USA. A dwi'n cofio'n berffaith i'r dyn yn y siop ddweud, 'Agor y bocs,' roedd yna dair llif yno, dwy yn mynd un ffordd, a'r llall y ffordd arall, 'Dewis yr un canol bob tro. Mae'n well' meddai. Roedden nhw'n gwneud tair llif o un haenen, a dyna sut oedden nhw'n cael eu pacio."

Canolbwynt cymdeithasol yr Iard oedd y caban, y sied lle'r oedd y gweithwyr yn bwyta, a lle byddai prentisiaid yn dysgu nad oedd unrhyw beth yn cael ei wastraffu yn Gilfach Ddu:

"Roedd gan bawb ei le. Roedd gan bawb ei gwpan ei hun. A byddai nytiau ar y bwrdd bob amser... nyten fawr tua modfedd a chwarter ar y bwrdd. Byddai rhai'n dod ag wy gyda nhw chi'n gweld, a'i ferwi mewn tun gwag, doedd ganddyn nhw ddim sosban nac unrhyw beth. Yn y tun a dyna fo. Yna bydden nhw'n eu rhoi yn y nytiau, chi'n gweld. Dyna oedd eu cwpan-wy. Doedd dim byd yn cael ei wastraffu yno!"

Alwyn Owen

Daeth Alwyn Owen i'r Iard yn gyntaf yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, gan arbenigo mewn cynnal a chadw peiriannau stêm a disel. Pwysleisiodd Mr Owen, fel y gwnaeth y ddau arall, fod gweithwyr yr iard yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gyflawni pob agwedd o ofynion cynnal a chadw'r chwarel:

"Dwi'n siŵr bod yna tua drigain ohonon ni rhwng pawb. Roedd yna osodwyr, seiri, gofaint, mowldwyr, pob math o bobl. Roedden ni'n gwbl hunangynhaliol. Roedd gennym ni bopeth oedd ei angen. Pan oedden nhw'n prynu peiriant newydd, byddent yn gwneud patrymau o bob darn. Yna, pan oedd angen prynu darn newydd, bydden nhw'n ei wneud eu hunain. Roedd hynny'n ei wneud yn lle gwych i weithio ynddo. Oedd wir!"

Bu cau'r chwarel ym 1969 yn ergyd drom i'r gweithwyr, ac er eu bod yn falch o weld bywyd Gilfach Ddu'n parhau fel amgueddfa, maent yn dal i hiraethu am ysbryd cymunedol a phrysurdeb y dyddiau a fu:

"O, mae'n torri 'nghalon i pan dwi'n mynd draw yna rwan. Cofio pawb oedd yn arfer bod yno - maen nhw i gyd wedi mynd bellach, chi'n gwybod. Does ond un neu ddau ar ôl. Daw rhywbeth i'r meddwl, cofio rhywun oedd yn arfer gweithio wrth y fainc acw, neu'r peiriant yna. Rydych chi'n cofio pawb. Dwi'n teimlo'n drist iawn am y peth, pan rydych chi'n gweld y lle heddiw o'i gymharu â sut roedd yn arfer bod... roedd sŵn ymhobman. A llawer o dynnu-coes. Roedd pawb yno'n tynnu'ch coes yn ofnadwy. Un peth ddyweda i am y lle, roedd pawb yn hapus yno. Welais i erioed unrhyw un yn ymladd nac yn cweryla yno - erioed."

Gadael sylw