Jâd Tsieina yn Amgueddfa Cymru

Penelope Hines (Curadur Celf Gymhwysol dros dro)

Deunydd gwydn, lled dryloyw yw jâd a gall gael ei droi yn addurniadau, arfau seremonïol a gwrthrychau defodol. Am saith milenia a mwy mae jâd wedi bod yn bwysig yn niwylliant Tsieina a dros y canrifoedd mae crefftwyr wedi troi eu dawn a’u dylunio arloesol at greu amrywiaeth o wrthrychau, gydag amrywiaeth o jâd gwahanol.

Y Deunydd

Yr enw Tsieinëeg am jâd yw ‘Yu’, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw garreg brydferth neu werthfawr – fel agat neu lasfaen – sy’n dangos y pum nodwedd canlynol:

  1. Llyfn
  2. Caled
  3. Strwythur dwys
  4. Lled dryloyw
  5. Arlliwiau gwahanol

Ond pan fyddwn ni’n trafod ‘jâd’ (yn enwedig mewn amgueddfa yn y Gorllewin) rydyn ni’n cyfeirio’n benodol at ddau fwyn gwahanol – neffrit ac arenfaen (jadeite). Dyfodiad cymharol ddiweddar i Tsieina yw arenfaen (tua diwedd y 18fed ganrif) felly neffrit yw’r rhan fwyaf o jâd Tseina.

Jâd Amgueddfa Cymru

Roedd pob anifail a gerfiwyd yn ystod llinachau Ming a Qing yn llawn ystyron ffafriol a dymuniadau da i’r gwyliwr. Dyma yw’r rhan fwyaf o wrthrychau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Hwyaden (NMW A 50761)

Hwyaden (NMW A 50761)

Mae’r hwyaden hon fel pe bai’n nofio. Ar ei chefn ac yn ei phig mae blodau lotws fydd yn dod â lwc dda i’r perchennog. Roedd cyfuno ffurfiau syml a manyldeb cain yn nodweddiadol o ddiwedd cyfnod Ming.

Byffalo (NMW A 50764)

Byffalo (NMW A 50764)

Defnyddiwyd y byffalo mewn tai i gadw ysbrydion drwg draw, ond gan fod yr anifail hefyd yn tynnu’r aradr mae wedi tyfu’n symbol o amaethyddiaeth a’r gwanwyn. Gall byffalo yn gorwedd gyda’i ben wedi troi ddynodi bod y byd mewn heddwch.

Alarch / Ŵydd (NMW A 50767)

Alarch / Ŵydd (NMW A 50767)

Mae’n aneglur os taw alarch neu ŵydd sydd yma. Yn niwylliant Tsieina hynafol roedd yr alarch yn fersiwn ddwyfol o’r ŵydd, ond mae’r ddau aderyn yn sanctaidd.

Llew (NMW A 50787)

Llew (NMW A 50787)

Does dim llewod yn byw yn Tsieina ond daethant yn adnabyddus gyda thwf Bwdhaeth. Mewn porslen ar ei orffwys y caiff y teigr ei bortreadu’n draddodiadol, ond mewn jâd byddant fel arfer yn cael eu darlunio yn yr un modd â chŵn. Mae hon yn esiampl dda o ddefnyddio jâd i ddangos cyfoeth.

Diferwr Dŵr (NMW A 50777)

Diferwr Dŵr (NMW A 50777)

Defnyddiwyd y diferwr dŵr i gynnal trysorau’r stiwdio, fel y brws, inc, papur a’r garreg inc. Defnyddiwyd y darnau yma mor gynnar â’r 13eg ganrif ond daethant yn offer cyfarwydd yn ystod llinachau Ming a Qing.

Prin oedd y rhai fyddai’n casglu jâd Tsieina yn Ewrop cyn y 19eg ganrif ac mae’n debyg i’r diddordeb dyfu wedi dangos gwaith yn un o arddangosfeydd mawreddog y Crystal Palace.

Daw’r eitemau cyntaf yn ein casgliad o gasgliad Tŷ Turner mewn gwirionedd, wedi’u caffael yn y 1800au mwy na thebyg gan noddwr cyntaf yr orielau, John Pike Thomas. Daw’r mwyafrif, fodd bynnag, o gymynrodd David Bertram Levinson ym 1967. Prin yw’r wybodaeth am darddiad y jâd ond mae’n debyg eu bod i gyd yn dyddio o’r 1800au a’r 1900au.

Erthygl yn dilyn sgwrs am Jâd Tsieina, 15 Mai 2015.

Llyfryddiaeth

Llyfrau

Lin, J C S. The Immortal Stone: Chinese Jades from the Neolithic Period to the Twentieth Century. The Fitzwilliam Museum, (Scala Publishers, 2009).

Wilson, M. Chinese Jades, (V&A Publications, 2004).

Erthyglau / Penodau

Nichol, D. 2010. Chinese Jade from the National Museum of Wales Collection. National Museum of Wales Geological Series No 2x, 000pp.

Gwefannau

Casgliad Celf Ar-lein Amgueddfa Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.