Y teulu Goodwin o Gynwyl Elfed





Rhan o Gasgliad Diwydiant Gwlân Amgueddfa Cymru yw casgliad Anne Goodwin Wilkins. Ei theulu oedd perchnogion Melin Goodwin yng Nghynwyl Elfed ac mae’r casgliad yn adrodd hanes y busnes teuluol ac yn adlewyrchu llanw a thrai nifer o felinau bychain, teuluol Cymru.
Y 19fed Ganrif
Erbyn canol y 19eg ganrif gorfodwyd nifer o felinau gwlân gwledig ger y Drenewydd i gau wrth i felinau masnachol mawr y dref ddechrau prynu gwlân rhatach o bellteroedd Swydd Efrog. O ganlyniad, dechreuodd nifer o deuluoedd y melinau gwledig symud o’r Drenewydd at ganolfannau llewyrchus y diwydiant yn Sir Gâr.
Ym 1848 symudodd William Price Goodwin ei deulu o’r Drenewydd i Gynwyl Elfed, pentref bychan rhwng Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn, a sefydlu melin wlân deuluol.
Gyda’r rheilffordd yn cyrraedd Cynwyl ym 1860 gallai cynnyrch Melin Goodwin gael ei gludo bellach i ganolfannau diwydiannol de Cymru, a hynny’n rhad ac yn gyflym. Sbardunodd dyfodiad y rheilffordd dwf y melinau, a chyda galw cynyddol o’r de diwydiannol am ddillad a blancedi, tyfodd Sir Gâr yn ganolbwynt y diwydiant gwlân yng Nghymru.
Yr 20fed Ganrif
Effeithiodd streiciau ac anghydfod diwydiannol parhaus yn drwm ar y melinau bychain ar droad yr ugeinfed ganrif, wrth i’r galw am nwyddau gwlân leihau. Cafodd Melin Goodwin ail wynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, wrth gyfrannu at yr ymdrech ryfel drwy gynhyrchu blancedi a chrysau ar gyfer y fyddin. Ond wedi’r rhyfel, gwerthodd y fyddin ei holl stoc o frethyn yn rhad, ac aeth nifer o felinau bychain i’r wal. Brwydrodd Melin Goodwin drwy ddirwasgiad mawr y 1920au a’r 1930au, ond cau fu’n rhaid ym 1939 gan werthu unrhyw beiriannau a chadw’r brethyn olaf mewn papur brown.
Yn 2004 gadawodd Anne Goodwin Wilkins bob eitem o’r hen felin deuluol i Amgueddfa Wlân Cymru mewn cymynrodd. Ymhlith yr amrywiol eitemau mae ffotograffau o’r teulu ac o’r gweithwyr, sampler o waith Anne a dillad doliau o waith ei thad, llyfr cownt ac allwedd drws ffrynt y felin, siswrn brethyn mawr a chopi o lyfr meddyginiaeth Cymraeg a ysgrifennwyd â llaw gan Thomas Goodwin oedd yn cynnwys cyngor i fenywod ar enedigaeth, a thriniaethau ar gyfer cramp, sgyrfi, halitosis ac ati. Yno hefyd mae’r brethyn olaf, wedi ei lapio o hyd mewn papur brown.
sylw - (1)