Darlun Ffug yn yr Oriel?

Castell Caernarvon Castle gan Richard Wilson
Caernarvon Castle

gan Richard Wilson

Claude Monet, Pont Charing Cross, 1902

'Adeiladau yn Napoli' gan Thomas Jones, 1782

'Adeiladau yn Napoli' gan Thomas Jones, 1782

'The Sea's Edge', Arthur Giardelli, 1990

'The Sea's Edge', Arthur Giardelli, 1990

The Beacon Light, J.M.W. Turner

The Beacon Light, J.M.W. Turner

Campwaith ar Goll

Yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ein gwaith yw datguddio straeon cudd ein casgliadau celf. O ddarluniau cudd sydd ond i'w gweld dan belydr-x, i ddilyn ôl troed artistiaid: rydym ni'n darganfod pethe newydd am ein casgliad yn gyson.

Dros y mis nesaf, 'dyn ni am osod sialens i weld a allwch chi ddarganfod rhywbeth ymhlith y peintiadau: mae na ddarlun ffug rywle yn yr oriel.

Drwy gydol mis Gorffennaf, bydd un o'n darluniau yn cael ei gyfnewid am fersiwn ffug, fel rhan o gystadleuaeth a rhaglen deledu Sky Arts: Fake! The Great Masterpiece Challenge.

Ble mae'r darlun ffug?

Rydym ni'n apelio ar bob ditectif celf amatur, i ddod i ymweld â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i chwilio amdano.

Mae copi ffug o baentiad o ysgol 'Dirlunio Prydain' wedi'i osod, a bydd modd ei weld drwy fis Gorffennaf.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu pa waith yw'r un ffug, pleidleisiwch arlein - caiff y cwbwl ei ddadorchuddio ar Sky Arts 'nes mlaen eleni, a'i arddangos ochr-yn-ochr â'r fersiwn wreiddiol mewn arddangosfa arbennig.

Casgliadau Celf Caerdydd

Mae dros fil o weithiau celf yn hongian yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: gweithiau enwog yr Argraffiadwyr, celf modern gan artistiaid fel Francis Bacon; gosodweithiau a chelf gymhwysol. Mae mynediad i'r amgueddfa yn rhad ac am ddim, felly dewch draw y mis yma i chwilio am y darlun ffug.

I wneud pethe 'chydig yn haws i chi, bydd y sialens o chwilio am ddarlun ffug wedi'i ffocysu ar ein casgliad o dirluniau. Dyma rai o drysorau cudd ac uchafbwyntiau y casgliad hwnnw:

Oes Aur y Picarésg

Gelwir Richard Wilson yn 'Dad Tirlunio Prydain', am ei fod yn meddu ar allu arbennig i gyfleu golau euraidd Môr y Canoldir a golygfeydd mytholegol, deniadol. Mae'n dod â'r naws yma i sawl tirlun o Gymru, wrth beintio cestyll Caernarfon a Dolbadarn.

Cewch weld portread o'r artist Cymreig wrth ei isl, yn gwisgo'i benwisg nodweddiadol, yn ein Oriel Gelf Hanesyddol, a ddarluniwyd gan Anton Mengs.

Perspectif Newydd: Tirlun y Ddinas a'r Tywyllwch

Wrth i'r tirwedd o'n cwmpas newid, mae agwedd artistiaid tuag ato yn newid hefyd. 'Dyw darluniau Thomas Jones ddim mwy na cherdyn post, a maent yn rhoi cipolwg ar olygfeydd o ddinas Napoli, o'i thoeon a'i strydoedd cefn - testun arloesol ar gyfer artist ym 1780.

Mae gwaith Jones i'w ganfod ymhlith darluniau o fyd natur a'r dref yn yr oriel Peintio o Natur.

Mae dinasoedd yr Eidal yn ymddangos dro ar ôl tro yn yr oriel Celf Brydeinig tua 1900, gyda Fenis yn enwedig yn denu llygad Walter Sickert wrth iddo beintio'r 'Palazzo Camerlenghi', a'r 'Palazzo Eleanora Duse', a Whistler, wrth iddo beintio 'Noslun: Glas ac Aur' o'r Piazza San Marco.

Peintio Golau

Oherwydd gwaith craff y Chwiorydd Davies, mae casgliad gwych o weithiau argraffiadol i'w gweld yn yr amgueddfa, fel astudiaethau awyr-agored Dorothea Sharp, lilis dŵr enwog Monet, a champwaith ôl-argraffiadol Cézanne, 'Argae François Zola'.

Bu un o artistiaid enwocaf Prydain, J.M.W Turner, yn ysbrydoliaeth i'r steil argraffiadol - yn creu storom frochus neu wawr heddychlon, mewn gweithiau fel 'Yr Oleufa' a 'Bore Wedi'r Storm'.

Yn ddiweddar, canfu dîm o arbeniwyr bod tri darlun gan Turner, a frandiwyd fel rhai ffug ym 1950, wedi eu paentio gan y dyn ei hun. Maent nawr yn cael eu harddangos yn ein Oriel Fictoraidd, ochr yn ochr â gwaith y cyn-Raffaeliad Gabriel Dante Rossetti, a model o un o nodweddion enwocaf y brif ddinas: Wal yr Anifeiliaid yng Nghastell Caerdydd.

Grym Tirwedd Cymru

Yn oriel Pŵer y Tir: Oriel Tirluniau Cymru cewch weld stori tirwedd ein gwlad - y ffordd y mae wedi newid dros y canrifoedd, a sut mae ei harddwch wedi ysbrydoli peintwyr, cerflunwyr a theithwyr.

O’r ddeunawfed ganrif ymlaen, daeth artistiaid yn llu i archwilio’n gwlad. Mae Cymru’n dal i ddenu artistiaid heddiw i ail-ddehongli llefydd a lluniau o’r gorffennol, gan edrych ar y tir mewn ffyrdd newydd. Mwynhewch waith Kyffin Williams sy'n dangos mynyddoedd diarffordd, a golygfeydd o ddiwydiant fel dociau Caerdydd. Yn yr oriel gron, brydferth yma, fe ddowch o hyd i sawl golwg ar Gymru.


Digwyddiadau

Os hoffech chi edrych yn fanylach ar ein casgliadau, ymunwch â thaith dywys am ddim, bob dydd Mercher a Sadwrn am 12.30pm. Bydd tywysydd cyfeillgar yn dangos uchafbwyntiau'r casgliad i chi, gan gynnwys Cézanne, L.S Lowry, Richard Wilson a J.M.W. Turner.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.