Gwaith Artistiaid Preswyl yn Sain Ffagan

Sian Lile-Pastore

Hanes, Celf a Chwarae

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn nodedig am ei gosodweithiau hanesyddol - o

eglwys ganoloesol i siop teiliwr, popty a thai teras.

Mae'r amgueddfa a'i chasgliadau wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, sydd wedi defnyddio ein safle, ein casgliadau a'n archifau dros y blynyddoedd.

Yn ddiweddar, rydym wedi ceisio creu rhagor o gyfleon i artistiaid i ddefnyddio'r amgueddfa mewn ffordd ddyfeisgar, trwy raglen artistiaid preswyl. Diolch i gefnogaeth hael Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae'r rhaglen artistiaid preswyl yn rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu gwaith, yn ogystal â datblygu profiadau newydd ar gyfer ymwelwyr - fel y lle chwarae i blant, gan yr artist Nils Norman:

Lle chwarae Sain Ffagan - Nils Norman

Manylun o'r Iard, lle chwarae wedi'i ddatblygu gan Nils Norman yn Sain Ffagan

Yn 2017-2018 rydym yn falch o weithio gydag Owen Griffiths, Sean Edwards gyda chymorth ymchwil gan Louise Hobson. Eu briff yw i archwilio sut 'mae ymwelwyr yn symud trwy'r safle.

Artistiaid Preswyl Sain Ffagan

Nils Norman, 2015-16

Fel rhan o’r gwaith

ailddatblygu Sain Ffagan, roedd angen lle chwarae newydd – un fyddai’n unigryw i’r safle ac yn annog chwarae creadigol. Gwahoddwyd yr artist Nils Norman i dreulio cyfnod yn yr amgueddfa fel artist preswyl ac i ddylunio lle chwarae newydd a chynnig syniadau am chwarae creadigol dros y safle.

Artist sy’n gweithio yn Llundain yw Nils ac mae wedi gweithio ar nifer o brojectau yn ymwneud â chwarae a dylunio dinesig. Mae’n awdur pedwar cyhoeddiad ac yn Athro yn Academi Celf a Dylunio Frenhinol Denmark yn Copenhagen lle mae’n arwain yr Ysgol Waliau a Gofod. Gweld mwy o waith Nils Norman.

 


'Birdscreens' - Nils Norman

Imogen Higgins

"Mae’r cyfnod preswyl yn Sain Ffagan wedi rhoi rhyddid i mi arbrofi gyda photensial celf gymunedol yn annibynnol.

Cefais ryddid i ddatblygu syniadau sy’n manteisio ar fy nghryfderau a’m diddordebau. Cefais gyfle hefyd i weithio gyda mwy o ffocws a chanolbwyntio ar friff penodol.

Bu’n rhaid i mi hefyd arbrofi gyda dulliau creadigol o gasglu gwybodaeth, fydd yn sicr o fantais i mi yn fy ngyrfa fel artist cymunedol.”

Artist cerameg newydd raddio ac yn gweithio yng Nghaerdydd yw Imogen Higgins. Ei diddordeb pennaf yw celf ac ymgysylltu cymunedol, a’i thasg hi oedd cydweithio â grwpiau lleol er mwyn llywio datblygiad y lle chwarae. Dechreuodd Imogen ei gweithdai drwy edrych ar batrymau yn y casgliadau ac ar y safle – cwiltiau clytwaith, teils canoloesol a’r patrwm teilio yn yr ardd Eidalaidd – yn ogystal ag ymchwilio i lefydd chwarae a chwarae creadigol yng Nghaerdydd.

Bu dau grŵp lleol yn cydweithio gyda hi yn ystod y project – myfyrwyr Ysgol Uwchradd Woodlands a phlant a rhieni Ysgol Gynradd Hywel Dda. Gellir gweld mwy o'r gwaith hwnnw ar flog prosiect Imogen

 


Gweithdy - Imogen Higgins

Fern Thomas

“Fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy ngwaith wedi bod yn arbrofi â naratif, dogfennau ac archifau hanesyddol. Rwy’n cael fy nenu gan wrthrychau cudd a straeon neu wybodaeth ddirgel, gan ddychmygu’r haenau o hanes i’w dadorchuddio mewn lle. Roedd potensial y cyfnod preswyl hwn, a’r cyfle i bori drwy archifau Sain Ffagan, felly yn fy nghyffroi yn fawr.”

Artist yn gweithio yn Abertawe yw Fern Thomas sydd ag ymchwil yn greiddiol i’w gwaith. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn llên a dewiniaeth werin. Ymchwilio i’r lle chwarae oedd ei rôl hi yn y project, ac ar ei gwefan mae ganddi erthygl yn trafod yr hyn ddaeth i’r fei (http://www.thesefuturefields.eu/researching-the-archives-play-hauntings-and-women-of-the-land/) yn ogystal a gwybodaeth am brojectau, ymchwil a gwaith arall.

“Mae’r cyfnod preswyl wedi bod yn allweddol wrth i mi ychwanegu gogwydd newydd i’m gwaith, gan fy helpu i fireinio fy niddordeb mewn archifau a hanes Cymru, fydd yn llywio fy ngwaith a’m ymchwil i’r dyfodol.”

 


Fern Thomas

Melissa Appleton

"Fy mwriad i oedd cael blas o’r safle a chreu detholiad o dameidiau – gofod gwrthdrawiadau rhwng y domestig a’r ysbrydol, y cyffredin a’r arallfydol. Wedi casglu strwythurau, planhigion, ffenestri, patrymau, gwrthrychau, cerrig, offer a drysau, y bwriad oedd eu haildrefnu yn dirlun anghyfarwydd, cyfarwydd. Creu drych o Sain Ffagan oedd y bwriad yn y bôn, gydag un droed yn y byd hwn a’r llall mewn rhith fyd.” (cyfieithiad o gyfweliad gyda chylchgrawn CCQ, 2015)

Y tu allan i waliau arddangosfa y caiff gwaith Melissa Appleton ei lwyfannu fel arfer. Mae’n cyfuno amgylchfyd artiffisial, digwyddiadau byw, sain a deunyddiau eraill mewn math o gerflunio estynedig. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn 2015 ymdriniodd Melissa â’r safle o bell ac agos, gan gydweithio â Mighty Sky (Abertawe) i ffilmio’r Amgueddfa gyda drôn, a gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i fapio rhannau o’r safle gyda sganiwr 3D. Drwy gyfuno’r rhain â chyfweliadau ag aelodau staff, casglodd Melissa ddetholiad o elfennau oedd yn cynnwys: dyn ar draeth yn hudo mecryll â chân, trisgell gyda thri sgwarnog a’u clustiau ymhleth, telyn deires, fframiau ffenestri wedi’u hailgylchu o awyrennau, ffigwr marwolaeth wedi’i naddu i bren gwely, a cwrwglwr noeth yn padlo’n wyllt ar draws afon. Lluniodd Melissa uwchgynllun amgen ar gyfer yr Amgueddfa, wedi’i lywio gan esblygiad Sain Ffagan dan law dyheadau a breuddwydion cenedlaethau o guraduron a staff yr hanner canrif diwethaf.

Wrth i’r cyfnod preswyl fynd rhagddo, cafodd Melissa ei hudo gan y ‘stiwdio a labordy gwrando’ (y stiwdio recordio a’r archif sgrin a sain). Yn ei lleoliad ar gyrion y gwaith ailddatblygu (ar y pryd) ond prin wedi newid ers y 1960au ei hun, ymddangosai fel stiwdio wedi’i dal rhwng y dyfodol arfaethedig a’r presennol. Mae Melissa bellach yn gweithio gyda Bedwyr Williams (oedd hefyd yn artist preswyl yn 2015) ar broject posibl i fynd â’r archif sgrin a sain ar daith drwy Gymru, mewn cerbyd sy’n adlais o garafán y curadur gwreiddiol.

 


Melissa Appleton

James Parkinson

“Penderfynais fynd ati i ymchwilio i hanes pensaernïol yr Amgueddfa a’r broses o gofnodi, symud ac ailadeiladu. Roeddwn i am astudio mannau ar draws yr Amgueddfa lle cafodd elfennau gwreiddiol a replica eu hasio i greu cyfanwaith credadwy. Y peth diddorol i mi oedd bod hyn yn greiddiol i greu’r Amgueddfa a’i datblygiad parhaus, ond eto’n herio’r syniad bod henebion yn ddisyfl a disymud.”

Artist yn gweithio ym Mryste yw James Parkinson sy’n defnyddio’r broses o drosi deunyddiau i ailddiffinio’r cysyniad o ofod, gwrthrych a chorff. Yn ystod ei gyfnod preswyl treuliodd James fwyafrif ei amser gyda chadwraethwyr a staff yr Uned Adeiladau Hanesyddol, ac ers hynny, mae wedi parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y syniadau a lywiwyd gan ei amser yn Sain Ffagan.

“Yn ystod y cyfnod preswyl llwyddais i ddatblygu cyfres o ysgrifau drwy drawsgrifio cyfweliadau â chadwraethwyr yn disgrifio’r technegau a ddefnyddiwyd i ddadorchuddio cyfres o furluniau. Fy niddordeb i yw dadorchuddio o’r newydd gyflwr arteffactau a henebion yng nghasgliad yr Amgueddfa trwy gyfrwng ysgrifau, a dilyn effaith y broses drosi hon. Mae agor y drws i’r lleisiau yma yn foment fawr yn fy ngwaith, ac rwy’n cyffroi wrth feddwl am y posibiliadau o gyfosod yr ysgrifau hyn ag agweddau eraill o’m gwaith yn y dyfodol.”

Mwy am waith yr artist: Gwefan James Parkinson

 


'Around Anything', 2015, James Parkinson

'That's the Original' - James Parkinson

Claire Prosser

Mae gwaith Claire Prosser yn cwmpasu celf weledol, ysgrifennu a pherfformio. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Sain Ffagan bu’n gweithio gyda gofalwyr yr Amgueddfa, crefftwyr, garddwyr a glanhawyr i gofnodi’r symudiadau bach, ailadroddus y bydd pobl yn eu hailadrodd yn ddifeddwl yn eu gwaith bob dydd – sut y defnyddia’r gofalwyr eu dwylo i droi’r allweddi yng nghloeon yr adeiladau hanesyddol a symudiad y crydd clocsiau wrth wnïo neu dorri lledr. Ar ddiwedd y cyfnod preswyl cyfansoddodd Claire berfformiad o’r enw ‘Petai Symudiad yn Wrthrych’ a lwyfannwyd i’r cyhoedd gan yr artist a chwmni dawns Expressions.

“Pan oeddwn i’n treulio amser gyda’r staff, sylweddolais taw nid symudiadau technegol y gwaith oedd yn tanio fy nychymyg, ond yn hytrach symudiadau hanfodol, anymwybodol, mympwyol pob unigolyn. […] Symudiadau sy’n ddynol, angenrheidiol a naturiol. Symudiadau a dyf o dreulio amser mewn lle wrth i berson, dros amser, ddod yn gyfarwydd a’r lle. Symudiadau sy’n perthyn i’r person hwnnw, sydd yn y lle hwnnw, ar yr amser hwnnw, bob dydd. Daw’r bobl yn rhan o’r lle fel ag y daw’r lle yn rhan ohonynt hwythau. Beth sy’n digwydd wrth osod y symudiadau yn rhywle arall? Ydyn nhw’n ffitio? Fel gwrthrych sy’n ffitio mewn lle penodol, all symudiad gael ei symud a’i ail-ffitio?”

 


Claire Prosser

Claire Prosser

Bedwyr Williams

Bedwyr Williams oedd cynrychiolydd Cymru yn Biennale Fenis 2015 ac roedd ar restr fer Artes Mundi 2016. Yn ystod ei gyfnod preswyl yn Sain Ffagan treuliodd Bedwyr ran helaeth o’i amser yn yr archifau sain ac yn crwydro’r Amgueddfa yn ffilmio a thynnu ffotograffau. Mae wrthi o hyd yn ystyried ffyrdd o gynnwys yr ymchwil yn ei waith, ond fe gynhyrchodd ffilm fer yn ystod ei amser yn Sain Ffagan sydd wedi’i harddangos yn ei arddangosfa yn Oriel Whitworth, Manceinion.

Ers cyflwyno ei waith yn Artes Mundi 2016, enillodd Bedwyr Wobr Ymddiriedolaeth Derek Williams, a thrwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth, mae ei waith, 'Tyrrau Mawrion' 'nawr yn rhan o'r casgliad cenedlaethol.

 


Darllen mwy am

neu archwilio casgliad celf Amgueddfa Cymru.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.