Carreg Leuad Apollo 12

Carreg Leuad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Carreg Leuad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Apollo 12 oedd chweched alldaith rhaglen Apollo yr Unol Daleithiau i gario criw, a'r ail i lanio ar y Lleuad. Gadawodd o Orsaf Ofod Kennedy yn Florida ar 14 Tachwedd 1969, bedwar mis wedi Apollo 11. Casglodd y gofodwr Alan Bean samplau o'r Lleuad i'w cludo i'r Ddaear i'w harchwilio.

Mae'r cerrig ar y Lleuad tua'r un oed â'r cerrig hynaf ar y Ddaear; rhwng 3.2 a 4.5 biliwn mlwydd oed. Ond ar y Ddaear, dim ond rhan fechan o ddaeareg yr arwyneb yw'r rhain. Mae mwyafrif y cerrig hŷn wedi cael eu dinistrio a'u hailgylchu drwy dectoneg platiau.

Heddiw, mae darn o garreg Leuad o alldaith Apollo 12 i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar fenthyg gan NASA.

Caiff y garreg werthfawr ei chadw mewn cynhwysydd aerdyn i'w hatal rhag difwyno. Mae'r garreg Leuad yn 3.3 biliwn mlwydd oed – llawer hŷn na charreg hynaf Cymru sydd tua 711 miliwn mlwydd oed. Mae tua'r un oed â charreg hynaf y DU, Lewisian Gneiss o ogledd-orllewin yr Alban, ac yn iau na charreg hynaf Canada, Acaster Gneiss sy'n 3.9 biliwn mlwydd oed. Gallwch chi weld enghreifftiau o'r tair carreg yma gyda'r garreg Leuad.

Y garreg Leuad yw'r gwrthrych mwyaf gwerthfawr yn yr Amgueddfa. Mae'n costio cymaint â thaith i'r Lleuad i gasglu carreg arall. Mae'n cael ei chadw mewn cynhwysydd o nitrogen i'w gwarchod, a dim ond NASA sydd ag allwedd i'r casyn mewnol.

Carreg Leuad yr Amgueddfa

Cynhyrchwyd y ffilm fer isod yng Ngorffennaf 2009 i ddathlu 40 mlynedd ers glanio ar y lleuad. (Delweddau a sain drwy hawlfraint NASA.)

Ewch i weld yr union fan lle casglwyd y sbesimen

  1. Rhowch glic-dde ar y ddolen uchod a dewis 'Save link as...'.
  2. Agorwch y ffeil yn Google Earth.
  3. Rhaid cael Google Earth 5.0 neu ddiweddarach a gosod yr olygfa i 'Moon':
Mae un o'r gofodwyr ar wyneb y Lleuad yn dal cynhwysydd o dir y Lleuad. Mae adlewyrchiad y gofodwr arall yn ei helmed.

Mae un o'r gofodwyr ar wyneb y Lleuad yn dal cynhwysydd o dir y Lleuad. Mae adlewyrchiad y gofodwr arall yn ei helmed.

Gallwch chi lawrlwytho Google Earth am ddim (Mac neu PC). I ddysgu mwy am Google Earth ewch i earth.google.com.

Mae un o'r gofodwyr ar wyneb y Lleuad yn dal cynhwysydd o dir y Lleuad. Mae adlewyrchiad y gofodwr arall yn ei helmed.

Mae un o'r gofodwyr ar wyneb y Lleuad yn dal cynhwysydd o dir y Lleuad. Mae adlewyrchiad y gofodwr arall yn ei helmed.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.