Ffotograffau coll sy'n dangos darlun unigryw o gefn gwlad y gorllewin

Mae casgliad unigryw o ffotograffau o droad yr 20fed ganrif, a achubwyd o domen mewn gardd, yn gofnod prin o fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion.

Tom Mathias (1866–1940)

Tom Mathias (1866–1940)

Yn aml iawn mae lwc yn chwarae rhan fawr wrth ddarganfod caffaeliadau pwysig ar gyfer amgueddfeydd, ac roedd hyn yn wir ym 1990, pan ddarganfuwyd casgliad gwych o ffotograffau hanesyddol a ddaeth i feddiant yr Amgueddfa Genedlaethol.

Beth ond lwc all esbonio bod y ffotograffydd proffesiynol a phrofiadol, Maxi Davis, yn digwydd pasio heibio i'r tŷ wrth i'r bocys llawn negatifau gwydr yn cael eu taflu i waelod yr ardd? Beth arall ond lwc allai esbonio bod y negatifau wedi goroesi degawdau o esgeulustod o gael eu storio mewn cypyrddau cegin a siediau?

Roedd Aberdyfan, y tŷ o dan sylw, yn cael ei glirio yn dilyn marwolaeth y perchennog, Mr James Mathias. Ei dad, Tom Mathias, dynnodd y ffotograffau.

Casgliad gwych o ffotograffau

Oherwydd ei gariad at ffotograffiaeth hanesyddol fe achubodd Maxi Davis y negatifau, gan brintio'r rhai oedd mewn cyflwr digon da i'w defnyddio. Datgelodd hyn gasgliad gwych o ffotograffau o ardal Cilgerran a Dyffryn Teifi ar droad yr 20fed ganrif.

Thomas Mathias (1866–1940)

Roedd Tom Mathias yn ffotograffydd a addysgodd ei hun yn y grefft. Cofnododd fywyd bob dydd ei gymuned gyda chraffter ac eglurdeb technegol anghyffredin, hyd yn oed ymysg ffotograffwyr mwy adnabyddus a ddefnyddiai offer mwy soffistigedig o lawer. Fe'i ganed yng Nghilgerran ym 1866, yn fab i gapten llong. Ychydig a wyddwn am ei flynyddoedd cynnar a'r hyn a sbardunodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Ym 1897 priododd Louise Paquier, athrawes o'r Swistir oedd yn gweithio i deulu bonheddig y Gowers o Gastell Malgwyn.

Ymgartrefodd y pâr yn Aberdyfan a llwyddodd Tom Mathias i redeg ei fferm fechan yn ogystal â dilyn gyrfa fel ffotograffydd. Roedd ganddynt ddau o blant, James, a anwyd ym 1902, a Tilla, a anwyd ym 1898.

Er na gafodd ei hyfforddi'n ffurfiol, roedd yn ddigon hyderus i roi 'ffotograffydd' fel galwedigaeth ar ei dystysgrif priodas ym 1897. Hefyd fe'i rhestrwyd fel ffotograffydd yn y cyfeirlyfrau masnach rhwng 1901a 1920. Nid yw'n glir beth ddigwyddodd ym 1920, ond mae'n debyg na dynnwyd nifer o'r lluniau sydd wedi goroesi wedi'r dyddiad hwn.

Cofnodi Bywyd Cefn Gwlad

Cyryglwyr o Gilgerran

William Johnson a John Morgan, cyryglwyr o Gilgerran, 1905.

Fel y mwyafrif o ffotograffwyr gwledig, enillodd Matthias ei fywoliaeth drwy gofnodi digwyddiadau teuluol pwysig, ac mae dros hanner y casgliad yn gyfuniad o luniau priodas, bedydd a grwpiau teuluol, sy'n dangos sut roedd ei arddull wreiddiol yn torri trwy ffurfioldeb ystumiau ei fodelau i gyfleu eu dynoliaeth a'u personoliaeth. Yn ôl y rhai oedd yn ei adnabod, roedd Mathias yn hynod o amyneddgar wrth baratoi i dynnu ei luniau, a gwelir ffrwyth ei amynedd diddiwedd yn fwyaf amlwg yn ei luniau anffurfiol hyfryd o blant.

Tynnodd Tom Mathias nifer o ffotograffau o fywyd bob dydd Cilgerran a'r fro, gan greu cofnod heb ei ail o fywyd cymdeithasol ac economaidd ei gymuned. Yn ogystal ag ymddiddori yn y digwyddiadau arbennig, fel dychweliad y gatrawd leol o Ryfel De Affrica, y tripiau Ysgol Sul a dathliadau'r pentref, byddai ei gamera'n cofnodi pethau di-nod a chyffredin bywyd hefyd.

Bywyd gwaith

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o ffotograffau amhrisiadwy o fywyd gweithwyr y chwareli lleol a'r ffermydd cyfagos. Yn ogystal â thynnu lluniau o'r pysgotwyr yn eu cwryglau, tynnodd luniau o gowperiaid a chwiltwyr y pentref. Fodd bynnag, mae diddordeb Matthias mewn pobl gyffredin yn amlwg, ac amlygir hyn ym mhob un o'i luniau beth bynnag fo'r testun.

Nodwedd anarferol o'r casgliad ffotograffau hanesyddol hwn yw bod cofnod llawn o'r holl ddeunydd wedi goroesi. Yn ogystal ag achub y negatifau, cynhaliodd Maxi Davis a'i wraig Peggy gyfres o arddangosfeydd o'r ffotograffau yng Nghilgerran a'r pentrefi cyfagos. Trwy hyn, llwyddasant i gofnodi lleoliadau a dyddiadau bron pob un o'r ffotograffau, ac adnabod y mwyafrif o'r unigolyn sydd ynddynt!

Byddai'r casgliad hynod hwn wedi cael ei golli am byth, oni bai am yr amgylchiadau a drosglwyddodd y ffotograffau o domen gardd i gasgliad pwysig mewn amgueddfa, lle'u cedwir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905.

Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
S.E Thomas
31 Gorffennaf 2020, 17:19
My Great Grandfather was William Johnson from Cilgerran and I tracing my family tree with DNA and I would appear if you had any more information regarding my GGrandfather , his wife was Ruth Johnson Post office St.Cilgerran
Thank You and kind regards.
Sharon Thomas
4 Mawrth 2017, 12:49
My Great Grandfather is pictured above William Johnson

Thank you.