Dyrnaid o Ddoleri

Arian 8-reales, neu'r 'Pillar Dollar', Mecsico, 1741.

Arian 8-reales, neu'r 'Pillar Dollar', Mecsico, 1741.

Tra bo casgliad nwmismateg (darnau arian) yr Amgueddfa'n cynnwys darnau arian o Brydain yn bennaf, mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddarnau sy'n nodweddiadol o arian tramor, sy'n hwyluso'r broses o osod esblygiad arian Prydeinig yn ei gyd-destun rhyngwladol.

Tarddodd y ddoler, un o unedau arian mwyaf dylanwadol y byd heddiw, ym mlynyddoedd olaf y 15fed ganrif. Bu cynnydd aruthrol yng nghynhyrchiant metel yn Ewrop yn sgil darganfod meysydd arian newydd a datblygiadau yn nhechnoleg mwyngloddio, ac fe ddechreuodd gwledydd canolbarth Ewrop gynhyrchu ceiniogau arian mawr a oedd yn gyfwerth â cheiniogau aur y cyfnod.

Mae'r enw 'dollar' yn tarddu o'r St Joachimsthaler Guldengroschen a fathwyd gan yr Ieirll Slik yng Nghanolbarth Ewrop tua 1520. Wrth i'r 'Thaler' ddod yn enw generig am ddarnau arian maint coron yn y taleithiau Almaenig, dechreuodd y term Saesneg 'dollar' ymddangos tua dechrau'r 17eg ganrif.

Masnachwyd niferoedd anferth o'r doleri a gynhyrchwyd yn nhrefedigaethau Sbaenaidd Mecsico a De America ('darnau wyth') drwy'r byd, gan osod y safon ar gyfer arian nifer o'r gwledydd oedd yn datblygu yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.