Pan Ymosododd y Llychlynwyr ar Ogledd Cymru

Mae cofnodion hanesyddol yn sôn am gyfres o ymosodiadau brawychus gan oresgynwyr Llychlynnaidd ar arfordiroedd Prydain, Ffrainc a'r Iwerddon yn negawd olaf yr 8fed ganrif.

Digwyddodd y cyrch cyntaf ar Gymru i gael ei gofnodi yn 852, a gwyddwn i'r Llychlynwyr ymosod ar Ynys Môn a Gwynedd o 854 ymlaen. Rhodri Mawr, Brenin Gwynedd (844-78) oedd arweinydd y gwrthsafiad i'r ymosodiadau hyn, ac fe laddodd bennaeth y Daniaid, Gorm, yn 855.

Yn 903 daeth y Llychlynwyr i Ynys Môn wedi iddynt gael eu herlid o Ddulyn. Yn ôl cofnodion y Gwyddelod a'r Cymry, methiant fu eu hymdrechion i sefydlu troedle yng Nghymru, a bu'n rhaid iddynt hwylio ymlaen i Gaer. Anrheithiwyd Ynys Môn gan y Llychlynwyr eto yn 918.

Bu ymosodiadau cyson ar yr ynys yn ystod ail hanner y 10fed ganrif; adeiladodd Olaf o Ddulyn gastell o'r enw 'Castell Olaf' neu 'Castell Bon y Dom' tua'r flwyddyn 1000.

Bellach, mae'r darlun hanesyddol unochrog hwn o'r Llychlynwyr yn brawychu'r wlad wedi cael ei drawsnewid gan archeoleg. Roedd y Llychlynwyr yn sicr yn elyniaethus a threisgar ar brydiau, ond gweld eu cyfle a wnaent yn aml. Mewn rhai ardaloedd, ymsefydlodd y Llychlynwyr yn amaethwyr heddychlon, a dengys tystiolaeth archeolegol eu bod yn wladychwyr, masnachwyr, a chrefftwyr medrus.

Hyd heddiw, natur ymsefydliad y Llychlynwyr yng Nghymru, ac ar Ynys Môn yn enwedig, yw un o ddirgelion mwyaf archeoleg yr Oesoedd Canol cynnar. Amlygir hyn wrth blotio'r mesuriad Llychlynnaidd - 'un diwrnod o hwylio' o Ynys Manaw, Dulyn, Caer a Chilgwri, gan eu bod i gyd yn cyfarfod yn nyfroedd Ynys Môn.

Darnau o ingotau arian a breichdorchau o'r 10fed ganrif

Darnau o ingotau arian a breichdorchau o'r 10fed ganrif

Y Llychlynwyr yn enwi Ynys Môn

Mae'r dystiolaeth ffisegol am y Llychlynwyr yng Nghymru'n llai pendant, hyd yn oed. Gwyddom fod y Llychlynwyr yn gyfarwydd ag Ynys Môn oherwydd rhoddwyd enwau o darddiad Sgandinafaidd i'r nodweddion arfordirol amlwg a ddefnyddiwyd ganddynt fel cymorth wrth fordwyo: Onguls-ey ei hun, sy'n ymgorffori enw personol yn ôl y traddodiad - arweinydd Llychlynnaidd mae'n debyg, The Skerries (Ynysoedd y Moelrhoniaid), Piscar, Priestholm (prestaholmr) ac Osmond's Air ger Biwmares, sy'n tarddu o'r enw Asmundr & eyrr, traethell raean ger y môr.

Dadorchuddio tystiolaeth o'r Llychlynwyr yng Nghymru

Am ddarlun mwy gwirioneddol o'r

Llychlynwyr yng Nghymru, rhaid troi at archeoleg. Darganfuwyd y rhan fwyaf o'r darnau arian Llychlynnaidd a ganfuwyd yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol. Canfuwyd dau gelc ym mynachlog Sant Deiniol, Bangor, un yn dyddio o tua 925, a grŵp bach o geiniogau a osodwyd yno tua 970. Gosodwyd celc ceiniogau Bryn Maelgwn, ger Llandudno yn y 1020au canol, ac fe allai fod yn ysbail Lychlynnaidd yn hytrach na chynilion lleol; ac fe ganfuwyd celc hynod o bum breichdorch arian cyflawn yn y 19eg ganrif ar Draeth Coch, Ynys Môn.

Anheddiad Oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch

Un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod y Llychlynwyr yw

Llanbedrgoch, ar Ynys Môn, ac mae gwaith ymchwil gan Amgueddfa Cymru wedi cyfrannu tuag at ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.

sylw (6)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Malcolm Jones
10 Mehefin 2021, 18:14
Both me and my sister have suffered with vikings disease and at the moment we still have it in either of our hands. Our Father was born in Menai Bridge Anglesey and his Mother was born in Pentraeth, Anglesey in 1877. Our Father past away in his 60's but I remember him complaining about sinews thickening in the palms of his hands. My sister and I are both in our 80s
AnnBatt
30 Medi 2019, 12:10
30th Sept 2019
Today is Gary Hocking's birthday and was looking up info about his birthplace and whether Vikings settled there as I think I have roots. Told my spouse about the disease and he said that he has it n showed me how his pinky finger is curling up! He is Swedish!
Happy Birthday Gary Hocking..

http://hamley.blogspot.com/p/remembering-gary-hocking-1937-1962.html
Andrew Weare
8 Hydref 2017, 20:10
Same hand features for myself also that designates a "Northern European" according to the diagnostics... Anglesey or Ongul's Ey' name of the Viking "Ongul" and his "Ey" or isle of. -- was repeatedly raided by Vikings..landing at Red Wharf bay, and near Bangor, Rhyls and etc. The famed Rhodri Fawr repelled the Vikings from North Wales rather efficiently and my guess is that the Welsh learnt strategies from the far past with the Romans..?
Carol
3 Hydref 2017, 21:13
I know someone else who had this. Lives just outside Llangollen.
I also have an hereditary illness called antitrypsyn deficiency.. Alpha-1 for short. It's known as the Viking disease. As they say it was a mutant gene which they bought over. Which affects lungs, and also liver.
C.john
14 Chwefror 2017, 19:57
Is there any descendants from the Vikings in Wales
Sylvia Balch
16 Ionawr 2017, 21:38
I find the viking history very interesting as I have Dupytrons (a Viking disease where the fingers curl up) My grandfather was born in Llanidloes, Wales and my mother and her relations also have Dupytrons. I was interested to know if you have any information on this disease (I have been told that I have a strong connection) and any info on an invasion in Llanidloes. I have been told that this area has a lot of people with this Viking disease.