Darganfyddiadau canfyddwr metel o Sir Fynwy: darganfod dau drysor arbennig

Ym 1988 dadorchuddiodd canfyddwyr metel yn Sir Fynwy ddau ddarganfyddiad gwahanol ond arwyddocaol — celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a modrwy aur o Raglan. Mae'r ddau yn enghreifftiau gwych o drysor sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Deddf Trysor 1997

Celc Rogiet, fel yr oedd pan gafodd ei ddarganfod.

Celc Rogiet, fel yr oedd pan gafodd ei ddarganfod.

'Carausius a'i frodyr' (celc Rogiet)

'Carausius a'i frodyr' (celc Rogiet)

Mae Deddf Trysor 1997 yn cwmpasu dosbarthiadau arbennig o geiniogau a gwrthrychau metel drudfawr sy'n cael eu darganfod yng Nghymru a Lloegr. Mae'n estyn amddiffyniad cyfreithiol i wrthrychau unigol o aur ac arian, ac i bob celc o geiniogau bron. Mae'r rheoliadau newydd yn darparu gwell amddiffyniad ar gyfer rhai categorïau o hynafiaethau sydd newydd gael eu darganfod, a gwell cyfleoedd ar gyfer eu cadw er budd y cyhoedd.

Ers i'r ddeddf ddod i rym, mae staff Amgueddfa Cymru wedi trafod nifer o ddarganfyddiadau, yn cynnwys darganfyddiad syfrdanol y celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a'r sêl-fodrwy aur anferth o Raglan.

Un o'r celciau gwychaf o geiniogau Rhufeinig a ddarganfuwyd yng Nghymru erioed

Ym Medi 1998, darganfuodd Colin Roberts filoedd o geiniogau Rhufeinig o'r drydedd ganrif OC yn Rogiet, Sir Fynwy. Dyma un o'r celciau gwychaf erioed a gofnodwyd yng Nghymru, a chafodd ei ddatgan yn drysor yn Rhagfyr 1998.

Claddwyd y 3,750 o geiniogau, mewn bocs pren o bosib, tua 295-6 OC (credir mai dyma'r dyddiad cywir, gan nad oedd ceiniogau diweddarach yn y bocs). Maent yn pontio cyfnod o bedwardeg mlynedd ac yn cynrychioli dau ddeg dau ymerawdwr, sy'n arwydd o ansefydlogrwydd gwleidyddol y cyfnod.

Trafferthion Gwleidyddol

Mae'n debyg bod y ffaith iddynt gael eu cuddio, a bod y perchennog wedi methu dod nôl i'w casglu, yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd milwrol a gwleidyddol y cyfnod. Fodd bynnag, roedd arian yr Ymerodraeth Rufeinig yn mynd trwy gyfnod o newid mawr ar y pryd. Yn 294-5 OC, cyflwynwyd ceiniogau aur, arian ac aloi copr newydd, gyda chynlluniau a safonau unffurf drwy'r ymerodraeth.

Mae'r celc yn gymysgedd anarferol, o ystyried ei fod yn ddarganfyddiad Prydeinig, gan ei fod yn cynnwys ceiniogau na gylchredwyd mewn niferoedd mawr yma. Mae'r celc yn arwyddocaol gan ei fod yn cynnwys nifer o geiniogau gwallus o'r 260au, ac yn cynnwys dros 750 o geiniogau o'r ddau unigolyn a ddatganodd eu bod yn Ymerodwyr ym Mhrydain, sef Carausius (287-93) ac Allectus (293-96). Mae'n anghyffredin eu darganfod mewn celciau, ac maent yn cynnwys gwerthoedd anarferol sy'n cynrychioli amrywiaeth o longau rhyfel.

Mae'r celc yn cynnwys enghraifft arbennig o dda, y gorau sydd mewn bodolaeth efallai, o geiniog glasurol a phrin o gyfres y ceiniogau Rhufeinig-Prydeinig. Mae'n debyg bod Carausius yn chwilio am werthfawrogiad swyddogol yr ymerawdwyr Diocletian a Maximian wrth gyflwyno arian yn eu henwau hwy, yn ogystal â'i enw ei hun tua 292 OC. Darluniodd ei hun gyda'r lleill mewn un llun hyd yn oed, gyda'r slogan 'Carausius a'i frodyr'. Fodd bynnag, nid pawb oedd yn teimlo'r un fath, a chyn pen blwyddyn roedd Carausius wedi mynd, wedi'i lofruddio gan ei weinidog, Allectus.

Modrwy aur addurnedig o Raglan

Modrwy Rhaglan

Modrwy Rhaglan

Yn yr un flwyddyn ag y ffeindiwyd y ceiniogau Rhufeinig yn Rogiet, darganfuodd Ron Treadgold sêl-fodrwy aur addurnedig ger Rhaglan, a chafodd hon ei datgan yn drysor hefyd. Mae gan y fodrwy wefl gron â llun llew ar wely blodau wedi'i ysgythru arno, yn ogystal ag ymyl rhaffog sengl gyda'r geiriau: to yow feythfoull or feythfoull to yow, a'r llythrennau W A bob ochr i'r llew.

Yr engrhaifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i'w darganfod yng Nghymru

Addurnwyd ysgwyddau'r fodrwy â blodau a dail, ac mae'n arwyddocaol ym maes astudio modrwyon yr Oesoedd Canol diweddar, gan fod modd ei gymharu'n agos â'r ysgythriad ar fodrwy esgobol aur John Stanbury, Esgob Henffordd (1452-1474), croes o ganol y bymthegfed ganrif o Winteringham, Swydd Lincoln, a modrwy aur o Briordy Godstow, Swydd Rhydychen.

Mae'n debygol bod modrwy Rhaglan yn dyddio o ganol, neu drydydd chwarter y bymthegfed ganrif, ac mae'n bosib mai dyma'r enghraifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i gael ei darganfod yng Nghymru.

Perchennog y fodrwy

Ni wyddom pwy yw perchennog y sêl-fodrwy ar hyn o bryd, ond mae'r ffaith iddi gael ei chanfod ger Rhaglan, gyda'r llythrennau W A arni'n golygu bod William Herbert, Iarll cyntaf Penfro (a ddienyddiwyd ar ôl brwydr Banbury yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, ym 1469) yn bosibilrwydd. Priododd Anne Devereux, ac fe allai'r llythrennau gynrychioli William ac Anne.

Mae maint y fodrwy'n awgrymu mai dyn oedd yn ei gwisgo, a gellir gweld yr ysgythriad fel arwydd o'i ffyddlondeb i'w wraig. Roedd Herbert yn un o ddau ddyn a alwyd 'y dewisedig a'r ffyddlon' i'r brenin newydd, Edward IV, ac fe'i urddwyd yn sgil coroni Edward. Serch hynny, does dim prawf mai modrwy William Herbert oedd hwn, ac mae enwau eraill yn bosib.

Ar hyn o bryd, yr unig sicrwydd yw bod y fodrwy'n arwydd o statws cymdeithasol, a'i bod, siŵr o fod, yn eiddo i swyddog neu ymwelydd pwysig â Rhaglan yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Staff Amgueddfa Cymru
15 Mawrth 2016, 14:18

Hi there anon,

Thanks for your enquiry. The value of this collection, as with many many others, will be constantly changing according to the markets, sometimes dramatically. We do not hold the expertise to value collections in the museum and rely on external specialists when we require valuations.

Sara
Digital Team

9 Mawrth 2016, 00:27
How much is it worth?